Tanau gwyllt yn llosgi mwy na 5,500 hectar o dir ym Mhatagonia
Mae tanau gwyllt wedi llosgi mwy na 5,500 hectar o dir yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia yn yr Ariannin.
Cynheuodd y tân ddydd Llun diwethaf yn ardal Puerto Patriada, tua 1,050 milltir i'r de-orllewin o'r brifddinas Buenos Aires.
Ers hynny, mae'r tanau wedi lledaenu'n gyflym iawn ac wedi amgylchynu tref Epuyen, sy'n gartref i 2,000 o drigolion.
Mae bron i 500 o staff gwasanaethau brys wedi cael eu galw i ymateb i'r digwyddiad, gyda chefnogaeth gan dalaith Córdoba a Chile.
Ddydd Sadwrn rhybuddiodd llywodraethwr Chubut, Ignacio Torres, ar gyfryngau cymdeithasol fod "y 48 awr nesaf yn allweddol".
Dywedodd fod "wyth awyren yn gweithredu mewn gwahanol rannau o'r tân" yn Puerto Patriada, gydag "awyrennau ychwanegol a chefnogaeth gan ddiffoddwyr tân o Chile a Córdoba".
Fe aeth ymlaen i ddweud bod bron i 500 o bobl yn brwydro yn erbyn y fflamau sydd wedi llosgi "mwy na 5,500 hectar o gaeau a choedwig frodorol".
Mae tanau'n llosgi mewn taleithiau eraill ym Mhatagonia hefyd, gan gynnwys Neuquen, Rio Negro a Santa Cruz.
Fe wnaeth y rhanbarth golli 32,000 hectar o dir i danau gwyllt ar ddechrau 2025.
Mae awdurdodau lleol yn credu bod y tanau diweddaraf wedi cael eu cynnau’n fwriadol.
"Bydd y bobl druenus hynny a gychwynnodd y tân yn mynd i’r carchar," meddai Mr Torres wrth y wasg.
Yn ôl erlynydd Chubut, Carlos Díaz Mayer, cafodd y tân yn Puerto Patriada ei gynnau gyda "hylif tanio neu betrol sy’n dangos yn bendant fod rhywun wedi bwriadu cynnau tân".
Bydd y dalaith yn rhoi gwobr o AR$50 miliwn (tua £25,000) i unrhyw un sy’n darparu gwybodaeth gadarn am bwy gynheuodd y tân.
Llun: Y tân yn Chubut gan Reuters