Peter Mandelson yn gwrthod ymddiheuro am ei gyfeillgarwch â'r pedoffeil Jeffrey Epstein

Peter Mandelson

Mae'r Arglwydd Peter Mandelson wedi gwrthod ymddiheuro i ddioddefwyr y pedoffeil Jeffrey Epstein am barhau i fod yn ffrindiau ag e ar ôl i lys ei gael yn euog o droseddau rhyw. 

Dywedodd cyn Lysgennad y Deyrnas Unedig i'r Unol Daleithiau iddo dalu'r pris, ar ôl iddo gael ei ddiswyddo oherwydd ei gysylltiadau â'r "bwystfil drwg" Epstein.

Ymddiheurodd am y "system" sy'n golygu na wrandawodd unrhyw un ar lais y dioddefwyr, ond gwrthododd ymddiheuro am ei gyfeillgarwch â'r troseddwr rhyw a barhaodd wedi'r euogfarn gyntaf yn erbyn Epstein.  

Plediodd Jeffrey Epstein yn euog yn 2008 i gyhuddiad yn ymwneud â phuteindra, ond dywedodd yr Arglwydd Mandelson iddo gredu ei "esgusodion" ac iddo barhau i'w gefnogi.   

"Teyrngarwch anghywir" a "chamgymeriad difrifol ar fy rhan i" oedd hynny, yn ôl yr Arglwydd Mandelson. 

Ceisiodd ymbellhau oddi wrth Epstein, gan ddweud: "Roeddwn i ar gyrion bywyd y dyn hwn." 

Ond mae e-byst wedi datgelu bod eu cyfeillgarwch wedi ymestyn i'r cyfnod ar ôl euogfarn Epstein.

'Dyn hoyw' 

Yn ei gyfweliad cyntaf ers iddo gael ei ddiswyddo fel llysgennad yn Washington fis Medi diwethaf, dywedodd yr Arglwydd Mandelson ar raglen y BBC With Laura Kuenssberg: "Welais i ddim byd erioed yn ei fywyd pan roeddwn i gydag e, pan roeddwn yn ei gartrefi, a fyddai wedi rhoi rheswm i fi amau beth roedd y bwystfil hwn yn ei wneud i'r menywod ifanc hyn." 

Ychwanegodd: "Rwy'n credu, am fy mod yn ddyn hoyw yn ei gylchoedd, cefais fy nghadw ar wahân o'r hyn yr oedd e yn ei wneud yn ei ochr rywiol o'i fywyd." 

Gofynnodd Laura Kuenssberg iddo a oedd eisiau ymddiheuro.  

"Rydw i eisiau ymddiheuro i'r menywod hynny am y system a wrthododd wrando ar eu lleisiau, ac a fethodd â'u gwarchod," meddai.  

Gofynnodd Ms Kuenssberg iddo a oedd eisiau ymddiheuro am ei gyfeillgarwch ag Epstein wedi'r euogfarn. 

Atebodd yr Arglwydd Mandelson: "Pe bawn yn gwybod, os fyddai gen i gysylltiad â'r hyn ddigwyddodd, yna wrth gwrs fe fyddwn yn ymddiheuro. 

"Ond doeddwn i ddim, doeddwn i ddim yn gwybod beth roedd yn ei wneud. Ac rwy'n difaru, ac fe fydda i'n difaru hyd ddiwedd fy oes, na chafodd y menywod eu gwarchod yn y modd y dylid fod wedi ei ddisgwyl."   

Wrth ymateb i'r cwestiwn a oedd yn haeddu colli ei swydd fel llysgennad gan y Prif Weinidog Syr Keir Starmer, dywedodd ei fod yn "deall pam y cafodd ei ddiswyddo".

Ychwanegodd: "Rwy'n deall pam iddo wneud y penderfyniad. Ond rwyf am fod yn gwbl glir, dydw i ddim yn dymuno ail agor y mater. Rwy'n symud ymlaen." 

Mae e-byst yn dangos i'r Arglwydd Mandelson ddweud wrth Epstein i "frwydro i gael ei ryddhau yn gynnar" yn fuan wedi iddo gael ei ddedfrydu i garchar am 18 mis. 

Mae adroddiadau hefyd iddo ddweud wrth Epstein "Rwy'n meddwl y bydd ohonot ti" ddiwrnod cyn i'r pedoffeil ddechrau ar ei gyfnod o dan glo. 

Pan ofynnwyd iddo pam iddo barhau â'i gyfeillgarwch gydag Epstein, dywedodd: "Dyna oedd y camgymeriad mwyaf ar fy rhan i. 

"Fe gredais i'r stori a ddywedodd yn 2008 yn ystod ei achos cyntaf yn Florida. Derbynais ei stori, ac rwy'n difaru." 

'Naïfrwydd' 

Wrth ymateb i'r cyfweliad, dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, Heidi Alexander, ar y rhaglen: "Rwy'n credu, yr hyn a welwyd yn y cyfweliad yna oedd, ar y gorau, naïfrwydd mawr gan Peter Mandelson."   

Awgrymodd y byddai hi wedi bod yn well pe bai'r Arglwydd Mandelson wedi ymddiheuro, er lles y menywod a ddioddefodd o dan law Epstein. 

Cafodd Jeffrey Epstein ei ddarganfod yn farw yn ei gell mewn carchar ym Manhattan, Efrog Newydd fis Awst 2019, tra roedd yn wynebu achos llys. 

Yn ôl casgliadau'r archwiliad post mortem, roedd e wedi lladd ei hun.  

Llun: BBC 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.