Y seren Cristiano Ronaldo i ddychwelyd i'w hen glwb Manchester United
Mae un o sêr mwyaf y byd pêl-droed ar fin dychwelyd i chwarae i'w hen glwb Manchester United yn Uwch gynghrair Lloegr.
Cyhoeddodd y clwb brynhawn dydd Gwener fod swyddogion wedi dod i gytundeb gyda chlwb Juventus yn yr Eidal am drosglwyddiad Cristiano Ronaldo i Fanceinion, yn dibynnu ar delerau personol a phrawf meddygol.
Mae Ronaldo wedi ennill y Ballon d’Or bump o weithiau ac mae wedi ennill dros 30 o dlysau yn ystod ei yrfa ddisglair fel un o sêr amlycaf y gamp.
Yn ystod ei gyfnod cyntaf gyda Manchester United fe sgoriodd 118 o goliau mewn 292 o gemau.
Yn gynharach ddydd Gwener roedd cryn ddyfalu y byddai'r ymosodwr o Bortiwgal yn ymuno gyda gelynion pennaf Manchester United ar ben arall i'r ddinas sef Manchester City.
Ond mewn tro pedol ryfeddol fe ddaeth cadarnhad yn ddiweddarach mai mewn crys coch United ac nid mewn crys glas golau City y bydd y chwaraewr dawnus o Bortiwgal yn chwarae'r tymor hwn.