
Ymgyrchydd yn ffoi o Afghanistan i astudio ym Mhrifysgol Abertawe

Mae ymgyrchydd hawliau menywod wedi rhannu ei phrofiadau o ffoi rhag y Taliban yn Afghanistan ar ôl derbyn lle i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Cyrhaeddodd Arefa Shafaei y Deyrnas Unedig ar ddydd Mawrth 24 Awst wrth i’r Taliban hawlio grym yn y wlad unwaith eto.
Fe wnaeth hi siarad ar raglen Good Morning Britain gan ITV am y boen o adael ei theulu ar ôl yn y wlad.
Dywedodd wrth y rhaglen: "Yn feddyliol nid wyf mewn cyflwr da. Rwyf mor bryderus am fy nheulu a fy mhobl yno. Mae fy nheulu yn ceisio cuddio eu hunain oherwydd bygythiad y Taliban."
Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn ni fydd mwy o bobl bellach yn cael eu galw i'r maes awyr yn Kabul yn dilyn yr ymosodiad terfysgol ar y safle ddydd Iau. Bu farw o leiaf 100 o bobl yno, ar ôl i ddau fom ffrwydro gerllaw lleoliad yr ymdrech ryngwladol i gludo pobl o'r wlad.
Mae Arefa Shafaei yn 29 oed ac yn rhan o ysgoloriaeth Chevening sy'n caniatáu i bobl o bob cwr o'r byd ddatblygu sgiliau ac astudio yn y DU. Mae Ms Shafaei wedi derbyn cynnig gan Brifysgol Abertawe i astudio cyfraith ryngwladol yn y ddinas.
Caniatawyd iddi ddod â’i chwaer gyda hi ond mae gweddill ei theulu wedi’u gadael ar ôl ac maent bellach yn cuddio.
"Pan ffarweliais â fy nheulu, nid oeddwn yn obeithiol y byddwn yn eu gweld eto oherwydd y sefyllfa", meddai.

Cyn i Ms Shafaei gyrraedd y DU, dywedodd ei bod yn ofni am ei bywyd ac nad oedd yn credu y byddai'n cyrraedd y wlad. Ond, mae hi bellach wedi cyrraedd gyda myfyrwyr eraill ac yn treulio amser mewn cwarantin ym maes awyr Birmingham.
"Roedd yn anodd iawn i ni fynd trwy'r maes awyr (yn Kabul). Fe wnaethon ni gyrraedd y tu mewn ar ôl 24 awr. Roedd yn amhosib heb gymorth y fyddin Brydeinig a hefyd pobl Afghanistan oedd yn ceisio helpu'n cael ni i mewn.
"Roedd pobl yn ceisio fy ngwthio i ffwrdd, roeddwn i mor ofnus y bydden nhw'n fy nghuro i ond o'r diwedd fe wnaethon ni gyrraedd gyda chymorth y fyddin Brydeinig."
Dywedodd Ms Shafaei ei bod am ddefnyddio'r cyfle a roddwyd iddi i godi ei llais ac astudio "ar gyfer fy ngwlad".
Ychwanegodd: "Roedd hi mor anodd i mi, ond rydw i yma i weithio'n galed ac i astudio yn dda ac rwy'n gobeithio cael fy ngwlad yn ôl o'r Taliban.
"Nawr mae gen i gyfrifoldeb gwahanol, nid wyf yn gweithio ar gyfer fy mreuddwyd personol; rwy'n gweithio dros fy ngwlad ac rwy'n astudio ar gyfer fy ngwlad."
Llun: ITV