Astudiaethau ar dda byw 'o gymorth wrth drin anffrwythlondeb mewn pobl'
Gallai ymchwil gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar dda byw arwain at driniaethau ar gyfer anffrwythlondeb mewn menywod, yn ôl adolygiad gwyddonol newydd.
Mae’r gwyddonwyr wedi bod yn chwilio am ffyrdd newydd o drin endometritis mewn defaid, gwartheg ac anifeiliaid fferm eraill.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cydnabyddiaeth gynyddol bod endometritis yn achos pwysig o anffrwythlondeb mewn menywod, meddai Dr Debbie Nash o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth.
Mae hi a Joanna Giles o'r brifysgol wedi cyhoeddi papur yn y cyfnodolyn academaidd Nature Reviews Immunology sy’n crynhoi’r hyn y maen nhw’n credu y gellir ei ddysgu gan lid y groth mewn anifeiliaid wrth drin pobl.
Dywedodd y gwyddonwyr eu bod nhw’n gobeithio y bydd eu hymchwil ar anifeiliaid yn arwain at ddatblygu cyffuriau effeithiol ar gyfer menywod.
Dywedodd Dr Debbie Nash fod endometritis yn gyflwr cyffredin mewn da byw.
“Ry’n ni’n gwybod bod endometritis cronig hefyd yn effeithio ar ffrwythlondeb mewn pobl,” meddai.
“Fel arfer caiff gwrthfiotigau eu defnyddio i drin yr haint, ond gall y llid barhau, gan effeithio ar ffrwythlondeb.
“Trwy rannu’r hyn ry’n ni wedi’i ddysgu a chymhwyso’n gwybodaeth yn fwy eang, ein gobaith yw y gall ein hymchwil hefyd helpu i roi hwb i’r gwaith o chwilio am therapïau newydd ar gyfer menywod sy’n dioddef o endometritis, yn enwedig y camau cynnar o ddarganfod cyffuriau.”
Ar hyn o bryd mae Dr Nash yn gweithio gyda dau gwmni o Gymru i ddatblygu cynhyrchion posibl ar gyfer trin endometritis.
Mae eu canfyddiadau wedi’u cyhoeddi yn y cyfnodolyn gwyddonol a adolygir gan gymheiriaid, Nature Reviews Immunology.
Mae adolygiad o’r ymchwil gan Dr Nash a Joanna L Giles o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth wedi’i gyhoeddi’n llawn yn Nature Reviews Immunology.

