Bryn Terfel yn dilyn dihirod ar Classic FM

Bryn Terfel Classic FM

Bydd Syr Bryn Terfel yn ymuno â gorsaf Classic FM ar gyfer cyfres a fydd yn para am bedair wythnos ym mis Ionawr. 

Bydd y canwr opera byd-enwog o Bantglas, Gwynedd sydd bellach yn byw ym Mhenarth, Bro Morgannwg yn cyflwyno rhaglenni yn bwrw golwg ar ddihirod y byd opera.  

Yn y gyfres Opera Villains with Bryn Terfel, bydd y bariton-bas yn arwain y gwrandawyr ar daith i fydoedd tywyll, dramatig y cymeriadau drwg hynny ar lwyfan. 

Bydd pob rhaglen yn awr o hyd a bydd Syr Bryn Terfel yn bwrw golwg ar rai cymeriadau y mae e wedi eu portreadu ar lwyfan ei hun, o Scarpia a Don Giovanni i Sweeney Todd. 

Wedi degawdau o berfformiadau byw ar lwyfan, bydd yn mynd o dan groen y cymeriadau hynny, yn asesu'r gerddoriaeth y maen nhw yn ei ganu, ac yn gofyn a ydyn nhw yn ddihirod mewn gwrionedd neu'n gymeriadau sydd â gwendid. 

Dechreuodd Syr Bryn Terfel ei yrfa broffesiynol yn 1990 gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Ers hynny, mae e wedi portreadu rhai o gymeriadau mwyaf eiconig opera, ac wedi cyhoeddi 15 albwm unigol gan ennill gwobrau lu, yn cynnwys Grammy, y BRIT Clasurol a Gwobr Gramophone.  

'Drygioni'

Wrth ymateb i'w raglen ddiweddaraf, dywedodd Syr Bryn: “Maen nhw wastad yn dweud mai'r diafol sy'n cael y llinellau gorau - ac ym myd opera - mae hynny yn gwbl gywir.

"Pan rwy'n canu yn rôl Scarpia neu Mephisto, rwy'n ceisio dod o hyd i ronyn o wirionedd ynddyn nhw, yr ochr ddynol o dan yr holl ddrygioni. Dyna sydd yn eu gwneud yn gredadwy, a wir i chi, dyna sydd yn eu gwneud yn gymaint o hwyl i'w portreadu.  

"Fedra i ddim aros i fynd â gwrandawyr ar y daith honno a mynd o dan groen y cymeriadau drwg hynny."

Dywedodd Joseph Zubier, Golygydd Classic FM mai Syr Bryn Terfel yw un o'r sêr opera gorau erioed.

"Bydd ei glywed yn datgelu cyfrinachau rhai o'r dihirod gwaethaf yn wledd i'n gwrandawyr. Bydd y gyfres, nid yn unig yn arddangos ei yrfa ryfeddol a'i dalent anhygoel e, ond hefyd yn cyflwyno byd opera gyda ffresni, ac mewn modd difyr i'n cynulleidfa," meddai.

Bydd y gyfres yn dechrau, ddydd Gwener, 9 Ionawr am 21:00 ar Classic FM. A bydd modd gwrando arni eto ar yr ap Global Player.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.