Cymru Premier JD: Y Bala yn herio'r Seintiau Newydd
Ar ôl dau ohiriad dros gyfnod y Nadolig oherwydd y tywydd oer, mae’r gêm rhwng Y Seintiau Newydd a’r Bala wedi ei threfnu am y trydydd tro, gyda’r gobaith o allu chwarae’r ornest ar nos Fawrth y 6ed o Ionawr.
Y Seintiau Newydd (1af) v Y Bala (11eg) | 19:45
Roedd hi’n ymddangos fel bod y ras am y bencampwriaeth ar ben ar ddechrau mis Rhagfyr pan oedd Y Seintiau Newydd 12 pwynt yn glir ar frig y Cymru Premier JD, ond mae Cei Connah wedi llwyddo i ail-danio’r cyffro yn y gystadleuaeth drwy ennill wythgêm gynghrair yn olynol a chau’r bwlch rhyngddyn nhw â’r pencampwyr i ddim ond un pwynt.
Y golled o 3-1 ar Gae y Castell yn erbyn Cei Connah ddydd Mercher diwethaf oedd y tro cyntaf i’r Seintiau golli’n y gynghrair yn erbyn y Nomadiaid ers y gêm gofiadwy honno ar Neuadd y Parc ym mis Ebrill 2021 pan sgoriodd Michael Wilde ‘hatric hanner cyntaf’ i Gei Connah yn erbyn ei gyn-glwb.
Er waetha’r golled, fe lwyddodd ymosodwr y Seintiau, Jordan Williams i daro’r rhwyd unwaith eto gan sgorio ei 20fed gôl gynghrair y tymor hwn, ac os bydd Williams yn parhau i danio o flaen gôl, yna fe all fod y chwaraewr cyntaf i sgorio 30 o goliau cynghrair ers i Rhys Griffiths wneud hynny yn 2009/10.
Gemau tan yr hollt:
Y Seintiau Newydd: BALA (c), BAE (c)
Y Bala: YSN (oc), FFL (oc)
Ar ôl ennill dim ond un o’u 12 gêm ddiwethaf, mae’r Bala wedi llithro i safleoedd y cwymp, ond mae hi’n agos iawn ar y gwaelod gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu Llansawel (9fed), Y Fflint (10fed) a’r Bala (11eg) yn y frwydr i osgoi’r cwymp.
Mae’r Bala wedi methu a chyrraedd y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 12 mlynedd, ond wedi’r holl newidiadau dros yr haf, y nod i Steve Fisher yw ceisio cadw’r clwb yn y gynghrair am dymor arall.
Mae’r Seintiau wedi ennill eu tair gornest ddiwethaf yn erbyn Y Bala, yn cynnwys y fuddugoliaeth o 2-0 ar Faes Tegid yn y gêm gyfatebol ym mis Medi.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ❌✅✅✅❌
Y Bala: ❌❌➖❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.