Lansio ymgyrch recriwtio i ddenu ynadon newydd
Mae ymgyrch wedi cychwyn ddydd Sadwrn er mwyn denu miloedd o ynadon newydd i wirfoddoli yng Nghymru a Lloegr.
Mae hyn yn ran o ymdrechion i gyflymu cyfiawnder i ddioddefwyr.
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgyrch recriwtio ar ôl argymell diwygiadau i system y llysoedd y mis diwethaf i fynd i'r afael â'r oedi yn llysoedd y goron.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) fod mwy na 2,000 yn rhagor o ynadon wedi cael eu hyfforddi ers 2022 a bod yr ymgyrch newydd yn ceisio cynyddu nifer y gwirfoddolwyr o 2,000 arall o fewn y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a’r Ysgrifennydd Cyfiawnder David Lammy: “Mae ynadon yn chwarae rhan hanfodol yn ein system llysoedd – gan glywed miloedd o achosion ar draws pob awdurdodaeth a chyflwyno cyfiawnder.
“Mae angen mwy o bobl o bob oedran a chefndir i wirfoddoli nid yn unig i gyflwyno cyfiawnder ond i wasanaethu a chynrychioli eu cymunedau lleol.
“Gall gwirfoddoli i fod yn ynad wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch bywyd chi a bywydau eraill – dyna pam rwy’n galw ar y cyhoedd i wneud cais a chwarae eich rhan."
Diwygiadau
Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd Mr Lammy gynigion i ddiwygio system y llysoedd, gan gynnwys cynyddu pwerau dedfrydu ynadon hyd at 18 mis o garchar, i fyny o 12 mis ar hyn o bryd, fel y byddant yn gallu delio ag achosion mwy difrifol.
Gellid ymestyn y pwerau hefyd i 24 mis os oes angen. Mae cynlluniau eraill yn cynnwys dileu treialon rheithgor ar gyfer rhai achosion a chreu llysoedd cyflym newydd o fewn llysoedd y goron i un barnwr wrando achosion yn lle.
Dywedodd Cymdeithas yr Ynadon fod y diwygiadau yn “bleidlais fawr o hyder” mewn ynadon ond bod angen mwy o adnoddau ar gyfer y llysoedd, gan gynnwys digon o gynghorwyr cyfreithiol hyfforddedig, sy’n cael eu talu’n dda, ac atgyweirio adeiladau llys sy’n dadfeilio. Disgwylir i bob ynad wirfoddoli o leiaf 13 diwrnod y flwyddyn i wrando achosion.
Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 57% o ynadon yn fenywod a bod 14% yn dod o gefndir lleiafrifol ethnig, ar wahân i Lundain lle mae’r gyfran uchaf o 31%.
Mae’r weinyddiaeth yn chwilio am ymgeiswyr “sydd â sgiliau cyfathrebu da, ymdeimlad o degwch a’r gallu i weld dadl o wahanol ochrau.” Mae angen ynadon ar draws achosion troseddol, ieuenctid, a sifil a theuluol, ac mae ganddynt gynghorwyr cyfreithiol arbenigol i’w cefnogi i ddelio ag amrywiaeth o achosion.