Rhagolwg ar gemau ddydd Sadwrn y Cymru Premier JD

Sgorio
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Cei Connah

Ar 9 Ionawr mi fydd rhan gynta’r tymor yn dod i ben a’r gynghrair yn hollti’n ddwy, ond cyn hynny mae gan y ddau glwb ucha’n y tabl gemau wrth gefn i’w chwarae y penwythnos hwn.

Ar ôl curo’r Seintiau Newydd ar nos Galan, bydd Cei Connah yn gobeithio parhau â’u rhediad rhagorol gartref yn erbyn Y Barri, clwb sydd yn anelu i selio eu lle yn y Chwech Uchaf eleni.

Ac mi fydd cewri Croesoswallt yn awyddus i ymateb yn syth yn dilyn eu colled yn erbyn y Nomadiaid, ac hynny gartref yn erbyn Y Bala, sydd wedi llithro i safleoedd y cwymp ar ôl cipio dim ond un pwynt o’u pum gêm ddiwethaf.

Cei Connah (2il) v Y Barri (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Roedd hi’n ymddangos fel bod y ras am y bencampwriaeth ar ben ar ddechrau mis Rhagfyr pan oedd Y Seintiau Newydd 12 pwynt yn glir ar frig y Cymru Premier JD, ond mae Cei Connah wedi llwyddo i ail-danio’r cyffro yn y gystadleuaeth drwy ennill saith gêm gynghrair yn olynol a chau’r bwlch rhyngddyn nhw â’r pencampwyr i bedwar pwynt.

Mae tîm John Disney wedi cipio 31 pwynt allan o’r 33 posib yn eu 11 gêm gynghrair ddiwethaf gyda Harry Franklin yn serennu i’r Nomadiaid, a’r Gwyddel yw’r chwaraewr cyntaf i gyrraedd ffigyrau dwbl o ran sgorio a chreu goliau yn y gynghrair y tymor hwn (sgorio 11, creu 10).

Fel Cei Connah, fe orffennodd Y Barri’r flwyddyn ar dân gan fynd ar rediad o 12 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, ond daeth y record arbennig honno i ben ar nos Galan gyda’r Dreigiau’n colli o 2-1 yn erbyn Llansawel.

Er hynny, mae tîm Steve Jenkins yn dal mewn safle addawol i sicrhau eu lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2020/21, gan eu bod yn hafal ar bwyntiau gyda Met Caerdydd (7fed), gyda gwahaniaeth goliau gwell, ac wedi chwarae un gêm yn llai.

Gemau tan yr hollt:

Cei Connah: BARR (c) CFON (oc) ͏

Y Barri: CEI (oc), LLI (c)

Hyd yn oed pe bae’r Barri’n colli’n erbyn Cei Connah, mi fyddan nhw dal yn ffefrynnau i gipio’r 6ed safle gan bod eu gêm olaf gartref yn erbyn Llanelli (12fed), tra bod Met Caerdydd yn gorfod teithio i Ben-y-bont (3ydd) nos Wener nesaf.

Ond bydd Y Barri’n hyderus o allu cael canlyniad cadarnhaol brynhawn Sadwrn gan eu bod ond wedi colli un o’u pum gornest ddiwethaf yn erbyn Cei Connah (ennill 3, cyfartal 1).

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah: ✅✅✅✅✅

Y Barri: ➖✅➖✅❌

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Bala (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30

Dyw’r ras am y bencampwriaeth yn sicr ddim drosodd eto, gan i Gei Connah brofi ar nos Calan eu bod yn barod i gystadlu am y teitl yn ail ran y tymor.

Y golled o 3-1 ar Gae y Castell ddydd Mercher oedd y tro cyntaf i’r Seintiau golli’n y gynghrair yn erbyn Cei Connah ers y gêm gofiadwy honno ar Neuadd y Parc ym mis Ebrill 2021 pan sgoriodd Michael Wilde ‘hatric hanner cyntaf’ i’r Nomadiaid yn erbyn ei gyn-glwb.

Er waetha’r golled, fe lwyddodd ymosodwr y Seintiau, Jordan Williams i daro’r rhwyd unwaith eto gan sgorio ei 20fed gôl gynghrair y tymor hwn, ac os bydd Williams yn parhau i danio o flaen gôl, yna fe all fod y chwaraewr cyntaf i sgorio 30 o goliau cynghrair ers i Rhys Griffiths wneud hynny yn 2009/10.

Gemau tan yr hollt:

Y Seintiau Newydd: BALA (c), BAE (c)

Y Bala: YSN (oc), FFL (oc)

Ar ôl ennill dim ond un o’u 12 gêm ddiwethaf, mae’r Bala wedi llithro i safleoedd y cwymp, ond mae hi’n agos iawn ar y gwaelod gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu Llansawel (9fed), Y Fflint (10fed) a’r Bala (11eg) yn y frwydr i osgoi’r cwymp.

Mae’r Bala wedi methu a chyrraedd y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 12 mlynedd, ond wedi’r holl newidiadau dros yr haf, y nod i Steve Fisher yw ceisio cadw’r clwb yn y gynghrair am dymor arall.

Mae’r Seintiau wedi ennill eu tair gornest ddiwethaf yn erbyn Y Bala, yn cynnwys y fuddugoliaeth o 2-0 ar Faes Tegid yn y gêm gyfatebol ym mis Medi.

Record cynghrair diweddar:  

Y Seintiau Newydd: ❌✅✅✅❌

Y Bala: ❌❌➖❌❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.