Newyddion S4C

Biden am dalu’r pwyth yn ôl wedi ymosodiadau Kabul

Al Jazeera 27/08/2021

Biden am dalu’r pwyth yn ôl wedi ymosodiadau Kabul

Mae Arlywydd yr UDA wedi dweud ei fod am dalu'r pwyth yn ôl ar ôl ymosodiadau ger maes awyr Kabul.

Mae o leiaf 72 o ddinasyddion Afghanistan ac 13 o filwyr Americanaidd wedi eu lladd yn dilyn dau ffrwydrad yn y ddinas ddydd Iau.

Dyma'r golled undydd waethaf i’r fyddin Americanaidd yn Afghanistan ers Awst 2011 pan gafodd 30 o filwyr eu lladd mewn ymosodiad ar hofrennydd Chinook.

Dywedodd Joe Biden mewn cynhadledd i'r wasg wedi'r ymosodiad: “Nid ydym am faddau, nid ydym am anghofio, fe wnawn eich hela chi lawr a gwneud i chi dalu.”

Mae’r ddau fomiwr wedi eu hadnabod drwy asesiadau’r Pentagon fel ymladdwyr ISIS, gyda’r grŵp yn cyhoeddi nos Iau eu bod yn gyfrifol am yr ymosodiad, yn ôl Al Jazeera.

Digwyddodd un ffrwydrad yn Abbey Gate wrth ymyl maes awyr rhyngwladol Kabul, ac fe ddigwyddodd y ffrwydrad arall ger gwesty gyferbyn â’r maes awyr.

Mae milwyr yr UDA yn paratoi at fwy o ymosodiadau.

Yn ôl Sky News, mae’r Cadfridog Frank McKenzie, pennaeth Gorchymyn Canolog yr UDA, wedi dweud bod bygythiad am fwy o ymosodiadau gan ISIS.

Dywedodd: "Rydyn ni'n credu mai eu hawydd nhw yw parhau â'r ymosodiadau hyn ac ry’n ni'n disgwyl i'r ymosodiadau hynny barhau ac rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i fod yn barod ar gyfer yr ymosodiadau hynny.”

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Twitter/ Evan Vucci

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.