Newyddion S4C

Lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn Sir y Fflint

26/08/2021
Newyddion S4C
NS4C

Mae heddlu'r gogledd wedi cadarnhau fod ymchwiliad llofruddiaeth wedi ei lansio yn Sir y Fflint.

Cafodd swyddogion eu galw i ddigwyddiad mewn eiddo ar Ffordd Chevrons, Shotton, ychydig wedi 9:20 fore Iau.

Cafodd dynes 27 oed ei darganfod yn farw yn y man a'r lle.

Mae dyn 29 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Jonathan Salisbury-Jones: "Hoffem sicrhau'r cyhoedd nad oes risg barhaus i'r gymuned ehangach.

"Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi teulu'r person fu farw".

Mae'r heddlu'n apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy 101 gan ddefnyddio cyfeirnod 21000594238.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.