Cannoedd yn bresennol yn angladd 'Mani' o'r Stone Roses

Gary 'Mani' Mounfield

Yn ei angladd fore Llun, dywedodd canwr y Stone Roses, Ian Brown fod ei gyd-aelod, Gary 'Mani' Mounfield fel "brawd" iddo. 

Bu farw'r gitarydd bas fis Tachwedd yn 63 oed.

Cyrhaeddodd Ian Brown Gadeirlan Manceinion yng nghwmni enwau mawr roc a phop y 90au. 

Roedd Paul Weller a Bez, o'r Happy Mondays yn eu plith, ac roedd Liam Gallagher yn un o'r galarwyr a gludodd ei arch allan o'r gadeirlan.

Roedd Mounfield yn un o aelodau gwreiddiol y grŵp, gan chwarae ar ddau albwm y Stone Roses cyn dychwelyd i gael aduniad ar eu taith nhw yn 2012. 

Fe ymunodd â band arall, Primal Scream, ym 1996 gan chwarae gyda nhw am 15 mlyned

Yn yr angladd hefyd, roedd cyn-chwaraewyr Manchester United, David Beckham a Gary Neville. 

Daeth cannoedd o ffans ynghyd y tu allan i'r gadeirlan gan gymeradwyo wrth i'r arch gael ei chludo i'r adeilad, tra roedd cân The Stone Roses 'I Wanna Be Adored' i'w chlywed. 

Wrth oedi am eiliad y tu allan i'r gadeirlan, dywedodd Ian Brown ei fod yno i "ddathlu bod dynol hyfryd".

"Roedd e'n bopeth i fi, yn frawd i fi," meddai. 

Roedd arch Mounfield wedi ei haddurno mewn gwaith celf sydd ar glawr albwm cyntaf The Stone Roses a gafodd ei gyhoeddi yn 1989.  

Bu farw ddwy flynedd wedi iddo golli ei wraig, Imelda a fu farw ar ôl dioddef o ganser. 

Mae gan y ddau efeilliaid - brodyr sy'n 13 oed.  

Llun: PA / Danny Lawson.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.