Newyddion S4C

Achosion Covid-19 ar eu huchaf ers dechrau 2021

26/08/2021
caerdydd jon candy

Mae achosion Covid-19 ar eu huchaf yng Nghymru ers Ionawr 2021. 

Cafodd 2,389 o achosion newydd eu cadarnhau ddydd Iau.

Y tro diwethaf i’r ffigwr fod mor uchel â hyn oedd yn ystod yr ail don, ar 5 Ionawr, gyda 2,658 o achosion.

Mae’r nifer o gleifion sy’n derbyn triniaeth am Covid-19 yn yr ysbyty yn isel o’i gymharu, serch hynny.

Roedd 2,772 o bobl yn derbyn triniaeth am Covid-19 yn ysbytai Cymru ar 5 Ionawr 2021. 

309 o bobl oedd yn yr ysbyty ddydd Mercher, 25 Awst, yn ôl ffigyrau diweddaraf StatsCymru. 

Dyma’r ffigwr uchaf ers 19 Mawrth 2021, ond mae’r cynnydd yn symud ar raddfa arafach na’r hyn â welwyd yn ystod yr ail don. 

Image
Eluned Morgan
Dywedodd Eluned Morgan y bydd y llywodraeth yn "monitro'r" sefyllfa o ran achosion ymhlith rhai dros 60. 

Pobl rhwng 20 a 29 sy’n cynrychioli’r twf mewn achosion positif, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda’r bobl yn y grŵp oedran yma yn gwneud fyny am 19.5% o achosion.

Ond mae’r Gweinidog Iechyd wedi dweud wrth y BBC ei bod yn “gofidio” am y cynnydd yn nifer y bobl dros 60 sy’n dal y feirws. 

Mewn cyfweliad arall ddydd Mercher, dywedodd Eluned Morgan wrth Wales Online fod y llywodraeth yn “barod i fynd” gyda brechlynnau atgyfnerthu, ond eu bod yn aros am y “golau gwyrdd” gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).

Daw hyn wedi i ymchwil newydd ddangos fod effeithlonrwydd brechlyn PfizerBioNTech a OxfordAstrazeneca yn cilio o fewn pump i chwe mis. 

Hyd yma mae 2,171,499 o bobl yng Nghymru wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn.

Ymhlith y rheiny mae 10% o bobl ifanc rhwng 16 a 17 oed, gyda 56.9% wedi derbyn eu dos cyntaf.

Achosion newydd 

Mae’r gyfradd achosion fesul 100,000 o bobl yn 334.1 ar gyfartaledd yng Nghymru, fyny o 306.9 ers Awst 13.

Mae’r gyfradd ar ei huchaf yn Abertawe (498.4) a Sir Ddinbych (443.1), ond ar ei hisaf ym Mlaenau Gwent (190.4).

Cafodd 2,389 o achosion eu cadarnhau, gyda’r cyfanswm yn 270,243 ers dechrau’r pandemig.

Cafodd un farwolaeth ei chadarnhau ddydd Iau, gan ddod a’r cyfanswm i 5,663.

Llun: Jon Candy

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.