0.4% o deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn yn profi’n bositif am Covid-19

Pedwar ym mhob 1,000 o bobl sydd yn dychwelyd i’r DU o’u gwyliau, ac sydd wedi’u brechu’n llawn, sy’n profi’n positif am Covid-19.
Daw’r ffigyrau gan y cwmni diagnosteg Cignpost sy’n dangos mai dim ond 0.4% o bobl sydd wedi’u brechu’n llawn wnaeth brofi’n bositif am Covid-19 wedi iddynt ddychwelyd i feysydd awyr y DU ym mis Gorffennaf.
Yn ôl adroddiad The Independent, roedd pobl sydd wedi derbyn un brechiad yn unig ddwywaith yn fwy tebygol o brofi’n positif o’i gymharu â’r rhai sydd wedi eu brechu’n llawn.
Pobl oedd heb eu brechu oedd y mwyaf tebygol o brofi’n bositif, gyda rhwng 1 a 1.2% wedi eu heintio gyda Covid-19.
Darllenwch y stori’n llawn yma.