Cynllun £24 miliwn i drawsnewid ysgol uwchradd ym Mangor gam yn agosach
Mae cynllun gwerth £24 miliwn i drawsnewid un o ysgolion uwchradd Gwynedd gam yn agosach wedi i’r cyngor gymeradwyo gwariant ychwanegol o bron i £2 miliwn yn sgil "cynnydd sylweddol" mewn costau.
Mae cynlluniau ar gyfer gwelliannau sylweddol i safle Ysgol Tryfan ym Mangor yn cynnwys codi adeiladau newydd, gwneud gwelliannau sylweddol i rai adeiladau a gwella adnoddau a chyfleusterau chwaraeon.
Bydd y gwelliannau yn cynyddu capasiti’r ysgol i 650 a’i “thrawsnewid yn safle modern a chyfoes”, yn ôl ar awdurdod, a’i gwneud yn ysgol “llawer mwy eco-gyfeillgar sy’n cwrdd â gofynion Cwricwlwm i Gymru.”
Costau ychwanegol
Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno i gyfrannu £1.96 miliwn yn ychwanegol tuag at y prosiect yn dilyn “cynnydd sylweddol” mewn costau chwyddiant â chost deunyddiau adeiladu ers cychwyn trafodaethau.
O ganlyniad, fe fydd y Cyngor yn cyfrannu £8.3 miliwn (35%) i’r prosiect, gyda’r £15.3 miliwn (65%) sy’n weddill yn dod o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth y Llywodraeth i achosion busnes y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Mae gwneud yn siŵr bod holl blant Gwynedd yn cael eu haddysgu mewn adeiladau modern a ffit i bwrpas yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd.
“Fel unrhyw brosiect sylweddol arall, mae’n cymryd amser i symud y gwaith yn ei flaen a dwi’n ddiolchgar i’r ysgol am eu hamynedd wrth i’n swyddogion wneud y gwaith cefndirol.
“Yn anffodus, ers i ni ddechrau trafod y prosiect yma, mae costau chwyddiant ynghyd â chost deunyddiau adeiladu wedi cynyddu’n sylweddol a dyma pam rydym wedi rhoi caniatâd heddiw i drosglwyddo £1.96 miliwn yn ychwanegol o Gynllun Rheoli Asedau’r Cyngor.”
Fe ychwanegodd: “Rydw i’n falch ein bod wedi cyrraedd y cam yma yn y broses ac yn edrych ymlaen i weld cynnydd y gwaith ar y safle ynghyd â gwelliannau sylweddol i’r ysgol pan bydd y gwaith wedi ei gwblhau; a gweld sut bydd yr adnoddau newydd yn cyfoethogi profiadau addysgol disgyblion Ysgol Tryfan.”
'Cam pwysig'
Dywedodd Dr Geraint Owen Jones, Pennaeth Ysgol Tryfan: “Fel cyn-ddisgybl a phennaeth Ysgol Tryfan, rwy’n croesawu’n fawr y newyddion am y buddsoddiad sylweddol i’n hysgol.
“Mae hwn yn gam pwysig ymlaen tuag at sicrhau bod ein disgyblion yn cael eu haddysgu mewn amgylchedd modern, diogel ac addas i’r dyfodol.
“Mae’r buddsoddiad newydd hwn yn sicrhau y gallwn barhau â’r weledigaeth ac edrychwn ymlaen at bennod nesaf yr ysgol mewn cyfleusterau sy’n adlewyrchu anghenion yr 21ain ganrif. Bydd y gwelliannau arfaethedig yn cynnig cyfleoedd dysgu cyfoethog i’n pobl ifanc ac yn cefnogi ein hymrwymiad tuag at ragoriaeth.
Llun: Dr Geraint Owen Jones, Pennaeth Ysgol Tryfan; y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg; rhai o ddisgyblion Ysgol Tryafn - Dafydd, Jac, Cari a Nansi; Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, Carl Mather.