Disgwyl Araith y Brenin yn syth ar ôl etholiad y Senedd

Araith y Brenin

Mae disgwyl y bydd Araith y Brenin sy’n cyflwyno rhaglen waith Llywodraeth y DU yn cael ei chynnal yn syth ar ôl etholiadau yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU ym mis Mai.

Dywedodd ffynhonnell o fewn Llywodraeth y DU wrth y BBC y bydd yn ei wneud yn anoddach i unrhyw un herio Prif Weinidog y DU, Keir Starmer, os yw’r etholiadau yn mynd o chwith i’w blaid.

Mae arolygon barn yn awgrymu y gallai fod yn noson anodd i’r Blaid Lafur yng Nghymru, gan arwain at golli eu safle fel y brif blaid yn y Senedd.

Fe fydd etholiadau yn cael eu cynnal yn yr Alban a rhai o awdurdodau lleol Lloegr yr un pryd.

Dywedodd un ffynhonnell yn y llywodraeth wrth y BBC: "Bydd yn llawer anoddach i rywun herio'r Prif Weinidog a dweud bod angen i ni fynd i gyfeiriad gwahanol pan fydd y Brenin ar fin dod i San Steffan i gyhoeddi beth rydyn ni'n ei wneud ar gyfer y flwyddyn nesaf."

Mae disgwyl i Araith y Brenin gael ei chynnal ar 12 neu 13 Mai 2026, ddyddiau yn unig wedi’r etholiadau ar 7 Mai.

Fe wnaeth yr araith ddigwydd yn fuan iawn wedi etholiadau 2021 a 2016 hefyd.

Mae Araith y Brenin yn nodi dechrau sesiwn seneddol newydd, sydd fel arfer yn para am flwyddyn ond gall bara am lawer hirach.

Fe wnaeth y sesiwn gyfredol ddechrau ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf 2024.

Mae'r araith wedi'i hysgrifennu gan y llywodraeth, ond yn cael ei darllen gan y Brenin neu’r Frenhines o orsedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Mae'n amlinellu rhaglen waith y llywodraeth ar gyfer y cyfnod sydd i ddod, gan nodi pa ddarnau o ddeddfwriaeth y mae'r llywodraeth yn bwriadu eu cyflwyno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.