Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Iau, 26 Awst.
Bygythiad terfysgaeth ym maes awyr Kabul yn ‘uchel iawn’- The Guardian
Mae “risg uchel iawn o ymosodiad terfysgol” yn erbyn ymgyrch i helpu pobl adael Afghanistan ym maes awyr Kabul. Mae’r Deyrnas Unedig ymysg y gwledydd sydd wedi galw ar bobl i beidio â cheisio teithio i'r maes awyr rhagor, gan annog pobl i aros mewn “lleoliad diogel”.
Staff a disgyblion i gael prawf Covid-19 cyn dychwelyd i’r dosbarth- Daily Post
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor Covid-19 i staff a myfyrwyr cyn i ysgolion, colegau a phrifysgolion ailagor. Bydd disgwyl i holl staff, a disgyblion ysgol uwchradd wneud dau brawf llif Covid-19 yn ystod yr wythnos sy’n arwain at ddiwrnod dychwel nôl.
Teulu yn cael eu hachub o Afghanistan gyda help milwr Cymraeg- ITV
Mae cyfieithydd a wnaeth wasanaethu yn y Fyddin Brydeinig yn Afghanistan wedi siarad am gais ei deulu i ffoi o’r wlad ar ôl i’w dad gael ei saethu gan y Taliban. Cafodd tad Naj Baghlani ei ladd oherwydd yr help roddodd ei fab i filwyr Prydeinig yn ystod Brwydr Musa Qala.Fe ofynnodd Mr Baghlani am gymorth y cyn-Sarjant, Ian Wornham, o Aberdaugleddau.
Gorymdaith i ddathlu 40 mlynedd ers protestiadau Greenham
Ym 1981 fe gerddodd 36 menyw o Gymru i Gomin Llu Awyr Brenhinol Greenham, Berkshire, i brotestio yn erbyn penderfyniad Nato i leoli arfau niwclear yr UDA ar dir cyffredin y Deyrnas Unedig. 40 mlynedd yn ddiweddarach, mae disgwyl i fenywod Greenham o bob cwr o’r wlad nodi’r achlysur.
Llygaid y byd golff ar Gonwy ar gyfer Cwpan Curtis
Fe fydd llygaid y byd golff ar Gonwy'r penwythnos hwn, wrth i’r dref groesawu cystadleuaeth Cwpan Curtis 2021. Roedd y gystadleuaeth i fod i gael ei chynnal ym mis Mehefin 2020, ond bu’n rhaid gohirio oherwydd sefyllfa Covid-19.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.