Apêl am wybodaeth wedi i eryr ddiflannu o'r canolbarth

Eryr ar goll.

Mae Heddlu Dyfed-Powys ac Uned Troseddau Bywyd Gwyllt Cenedlaethol y DU yn ymchwilio i ddiflaniad eryr gynffonwen yn y canolbarth.

Dywed yr heddlu bod diflaniad yr aderyn yn "amheus", gan ychwanegu fod y tag lloeren oedd ar yr eryr wedi ei daflu i ffwrdd cyn iddo ddiflannu.

Mae'r achos yn un o dri lle mae eryrod cynffonwen wedi diflannu yn ddiweddar - gydag un aderyn yn diflannu yn Petersfield, Sussex ar 26 Medi, ac achos arall i'r de o Gaeredin ar 8 Tachwedd.

Cafwyd hyd i'r tag lloeren ar yr eryr aeth ar goll ym Mhowys ar ddarn o dir anghysbell, a'r gred yw ei fod wedi'i dynnu oddi ar yr aderyn gydag offeryn miniog fel cyllell, cyn cael ei guddio mewn ymgais i'w waredu.

Hyd yn hyn, mae archwiliadau yn yr ardal i geisio dod o hyd i gorff yr aderyn wedi bod yn aflwyddiannus.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardaloedd canlynol ar yr amseroedd penodol i gysylltu â'r heddlu.

- Rhwng 11:00 a 13:00 ar ddydd Sadwrn 13 Medi o gwmpas Cronfa Ddŵr Gwgia, Tregynon, ym Mhowys

- Rhwng hanner dydd a 15:00 ar ddydd Sadwrn 13 Medi ar dir ger mynediad Bryn y Fawnog, ychydig filltiroedd i'r gorllewin

Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25000766626.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.