Newyddion S4C

Teulu yn cael eu hachub o Afghanistan gyda help milwr Cymraeg

ITV Cymru 26/08/2021
S4C

Mae cyfieithydd a wnaeth wasanaethu yn y Fyddin Brydeinig yn Afghanistan wedi siarad am gais ei deulu i ffoi o’r wlad ar ôl i’w dad gael ei saethu gan y Taliban.

Cafodd tad Naj Baghlani ei ladd oherwydd yr help roddodd ei fab i filwyr Prydeinig yn ystod Brwydr Musa Qala.

Gan ofni am ddiogelwch gweddill ei deulu sy'n dal i fod yn Afghanistan, fe ofynnodd Mr Baghlani am gymorth y cyn-Sarjant, Ian Wornham, o Aberdaugleddau.

Image
S4C
LLun: Good Morning Britain ITV

Dywedodd Mr Baghlani wrth raglen Good Morning Britain, ITV: "Fe wnaethant yrru i'n tŷ a churo'r drws - agorodd fy nhad y drws a dechreuon nhw saethu. Roedd yn anobeithiol iawn a bu'n rhaid i'r teulu cyfan dianc a rhedeg am eu bywydau."

Y rheswm ymosododd y Taliban oedd oherwydd gwaith blaenorol Mr Baghlani gyda "lluoedd tramor".

"Roedd e’n anrhydedd ac o’n i’n falch o weithio gyda'r Fyddin Brydeinig yn Afghanistan, a phe bawn i'n cael cyfle i gwblhau cenhadaeth arall o'r fath byddwn i’n ei wneud eto."

Fe wnaeth Mr Baghlani ffoi o Afghanistan yn 2010, ond nawr mae’n ysu am gael gweddill ei deulu o’r wlad wrth i’r Taliban dod 'nôl i rym.

Fe gysylltodd Mr Baghlani ag Mr Wornham ar ôl iddo weithio’n agos ag ef yn ystod y frwydr Brwydr Musa Qala.

Roedd Brwydr Musa Qala yn weithred filwrol dan arweiniad Prydain yn Nhalaith Helmand yn erbyn y Taliban ar 7 Rhagfyr 2007.

Ar ôl tridiau o ymladd dwys, enciliodd y Taliban i'r mynyddoedd.

Llwyddodd y cyn-Sarjant i gysylltu â milwyr yn Afghanistan a chuddion nhw deulu Mr Baghlani mewn gwesty hyd nes iddynt gael lle ar awyren.

"Pa fath o ddynion fyddem ni pe byddem yn gadael ein cydweithwyr ar ôl?" dywedodd Mr Wornham.

"Fe wnes i hala neges i ysgrifennydd y gatrawd parasiwt gan obeithio byddai ganddo gysylltiad â'r milwyr a fyddai yn gallu cael teulu Naj allan."

Yn edrych nôl ar ei gyfnod yn y lluoedd arfog, dywedodd Mr Wornham: "Roedd hi'n frwydr galed ac ni allem fod wedi gwneud ein gwaith heb Naj - roedd yn allweddol wrth ryng-gipio'r Taliban.

"Dwi ddim yn credu bod pobl y DU yn sylweddoli fod pobl fel Naj a'r dehonglwyr eraill yn achub bywydau."

Yn ôl ITV, mae teulu Mr Baghlani yn ddiogel, a’r gobaith yw y byddant yn cyrraedd y DU yn fuan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.