Cyngor Gwynedd yn clustnodi £1.5m i ddiogelu hen adeilad yn Nhywyn
Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo rhyddhau £1.5m er mwyn diogelu adeilad yr hen Corbett Arms yn Nhywyn.
Mae'r gost hyd yma wedi cyrraedd £938,348.41, a'r amcan ydy y bydd y gost i wneud yr adeilad a'r safle’n ddiogel yn £1.5 miliwn.
Mae ystafelloedd yr hen westy, lle arhosodd John Lennon a Yoko Ono yn 1969, wedi dirywio'n sylweddol dros y blynyddoedd, a nifer o ffyrdd gerllaw wedi bod ar gau oherwydd pryderon am ddiogelwch y safle.
Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi gwneud cais am ganiatâd i ddymchwel yr adeilad yn raddol, a gwneud gwaith cynnal a chadw i sefydlogi’r strwythur fyddai'n parhau yno.
Costau i'r dyfodol
Mewn cyfarfod o'r cabinet ddydd Mawrth, gofynnodd y Cyngorydd Paul Rowlinson wrth swyddogion os byddai costau parhaus yn codi yn y dyfodol ar ôl gwario'r £1.5m i ddiogelu'r adeilad.
Gofynnodd hefyd os oes gan y cyngor y pwerau i sicrhau bod terfyn ar y broblem o orfod diogelu'r safle am flynyddoedd i ddod.
Dywedodd Dafydd Wyn Williams, pennaeth Adran Amgylchedd y Cyngor: "Mae'n gwestiwn hynod dda, hynod berthnasol, o ran os ydan ni yn mynd i weld diwedd hyn fel cyngor?
"Fysa'n dda o beth os fysa ni'n gallu diogelu'r adeilad a cau bob peth i fyny a symud i ffwrdd gan wybod 'dyna fo - da ni'n gallu cerdded i ffwrdd o hwn a gadael i'r perchnogion sortio fo a cydfynd hefo'u cyfrifoldebau'.
Ychwanegodd: "Ond da ni ddim yn gwybod os ydy hyn yn mynd i ddigwydd a pe byddai yna fwy o'r adeilad yn syrthio...a da ni yn monitro yr adeilad a mae yna symudiadau o fewn yr adeilad mae gynno ni gonsyrn amdanyn nhw, da ni'n ceisio cadw'r gwaith sy'n gynwysiedig yn y cais adeilad rhestredig i'r lleiafswm i ni warchod yr adeilad - ond dyw hynny ddim i ddweud y bydd pethau'n dirywio yn rhywle arall.
"Beth sy'n hynod, hynod anodd am hyn yw y gellwch chi gael dau arbenigwr strwythurol hefo dau gwahanol farn... mi fedrwch chi gael dau wahanol theory am sut mae'r adeilad yn ymddwyn."
Dywedodd y Cynghorydd June Jones fod y swm oedd yn cael ei ystyried ar gyfer diogelu'r safle'n "lot fawr o bres."
"Oes na bosib - rhyw dro - fe fydd na rhywun yn gwerthu'r safle, yr adeilad. Fedra ni wedyn gael first charge ar yr adeilad fel bo ni'n medru cael rhywfaint o'r arian yn ôl?" meddai.
"Mae'n siwr na chawn ni'r £1.5m, ond bod ni'n cael rhywfaint o'r pres yna yn ôl i mewn i'n coffrau ni?"
Roedd ganddi hefyd bryderon y byddai'r costau yn rhai parhaus i'r dyfodol.
Mewn ymateb, dywedodd Dafydd Wyn Williams bod dewisiadau ar gael o ran adennill y costau, "ond fe fydd yn rhaid i ni fod dipyn bach yn realistig o faint o'r costau y bysa ni yn gallu adennill."
Achub
Roedd yr awdurdod wedi dweud yn flaenorol eu bod eisiau ceisio achub cymaint o'r adeilad â phosibl. Ond mae grŵp SAVE Britain's Heritage wedi lobïo'r cyngor mewn ymgais i geisio achub yr adeilad.
Mae cyn-westy’r Corbett Arms yn adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi bod ar gau ers tua 2011, ac yn ôl y cyngor, maen nhw wedi bod mewn trafodaethau gyda sefydliad Cadw drwy gydol y broses.
'Diogelu'r cyhoedd'
Yn ôl adroddiad sydd wedi ei gyflwyno i'r cabinet gan uwch swyddogion y cyngor, mae angen ariannu’r gwaith angenrheidiol o ddiogelu'r adeilad, er mwyn "diogelu’r cyhoedd a’r adeilad ei hun fel adeilad rhestredig."
Bu farw perchennog cyfreithiol yr adeilad yn 2012, ac nid oes grant profiant (probate) wedi ei gadarnhau ar gyfer yr ystad.
Roedd yr adroddiad gafodd ei gyflwyno i'r cabinet i'w ystyried ddydd Mawrth yn nodi "nad oedd opsiwn ond cyflwyno cais adeilad rhestredig (LBC) ar gyfer gwaith dad-adeiladu rhannol yr adeilad, a’r gwaith cynhaliaeth sydd ei angen i sefydlogi'r strwythur sydd yn weddill."
"Er mwyn gallu cymryd y camau hyd yma i ddiogelu’r cyhoedd a’r adeilad rhestredig, mae costau sylweddol i’r Cyngor," meddai'r ddogfen.
Gwaith parhaus
Mae'r costau yn cynnwys codi sgaffaldiau i ddiogelu aelodau'r cyhoedd, cau ffyrdd a rheoli traffig, diogelwch safle ac adeiladau, contractwr dymchwel arbenigol, peiriannydd strwythurol, gwaith ecoleg, a gwaith monitro adeiladau arbenigol parhaus.
Yn ôl yr adroddiad, byddai costau pellach o ganlyniad i'r gwaith dadadeiladu rhannol.
Yn ôl y ddogfen, mae hyn yn ddibynnol ar y cais adeilad rhestredig yn cael ei gymeradwyo, a maint y gwaith.
Mae'r Prif Swyddog Cyllid yn nodi nad oes ffynhonnell ariannol addas yn bodoli o fewn yr Adran Amgylchedd ac felly nad oes "gwir ddewis ond ariannu’r gwaith brys yma o’r Gronfa Strategaeth Ariannol."
"Wrth gwrs, mae hyn yn golygu fod £1.5miliwn yn llai ar gael er mwyn ymdrin â phwysau ar y gyllideb o fewn y flwyddyn neu i gryfhau ein reserfau cyffredinol," meddai.