Carchar am 5 mlynedd i ddyn o Wynedd am gyflenwi cyffuriau
Mae dyn 34 oed o Fangor wedi ei garcharu am fwy na phum mlynedd am ei ran yn cyflenwi cyffuriau dosbarth A yn y ddinas.
Caofodd William Stephen Osu ei arestio mewn ymgyrch ar y cyd rhwng Heddlu'r Gogledd a Heddlu Glannau Mersi i fynd i'r afael â Llinellau Cyffuriau (County Lines) yn y ddinas.
Mae Osu hefyd wedi cael Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn ei wahardd rhag mynd i Fangor am 10 mlynedd.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Arwel Hughes o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein partneriaeth waith agos gyda chydweithwyr o Heddlu Mersi yn caniatáu inni rannu gwybodaeth ac adnabod yn gyflym y rhai sy’n benderfynol o gyflenwi crac cocên a heroin i aelodau'r gymuned sy'n agored i niwed.
“Mae troseddwyr sy’n rhedeg llinellau sirol yn achosi effaith andwyol ar gymunedau ledled Glannau Mersi a Gogledd Cymru, a dyna pam rydym yn parhau i fod yn benderfynol o fynd i’r afael â throseddwyr sy’n ceisio camfanteisio ar bobl a dod â thrais i’n cymunedau er eu lles eu hunain.
“Rwy’n parhau i apelio’n uniongyrchol at unrhyw un sydd â gwybodaeth am gyflenwi cyffuriau i roi gwybod am eu pryderon i’r heddlu neu’n ddienw drwy Crimestoppers.”