Cyflwyno deisebau yn erbyn cau ysgolion cynradd yn Sir Benfro

15/12/2025

Cyflwyno deisebau yn erbyn cau ysgolion cynradd yn Sir Benfro

Roedd y neges i Gynghorwyr Sir Benfro yn glir gan blant Ysgol Clydau.

Peidiwch a bod yn Grinch Nadolig oedd eu hapel gan alw am dro pedol ar gynlluniau i gau'r ysgol ym mhentref gwledig Tegryn.

"Peidiwch a chau'r ysgol fach hyn. Mae'n galon i'r gymuned.

"Mae popeth yn digwydd i wneud gyda'r ysgol.

"Unrhywbeth yn y pentre, mae e i gyd i wneud gyda'r ysgol."

"Dyw ysgol mawr ddim i bob plentyn.

"Mae lot o blant bach yn lico ysgol fach.

"Mae pawb yn 'nabod ei gilydd a'r athrawon i gyd yn 'nabod y plant."

"Mae e'n rili trist. Mae tri phlentyn 'da fi gydag anghenion arbennig 'di mynd drwy'r ysgol ac mae'r ysgol 'di bod yn ffantastig."

"Ni ddim am fynd yn dawel. Ni dal 'ma.

"Ni isie i nhw feddwl am hwnna."

Chi'n benderfynol o frwydro hyd at y diwedd?

"Ie."

Mae'r Cyngor Sir wedi agor yr ymgynghoriad ar gau Ysgol Clydau ar drothwy gwyliau'r Nadolig.

Os yw'r awdurdod yn bwrw 'mlaen gyda'u cynlluniau gallai drysau'r ysgol gau ar ddiwedd tymor yr haf blwyddyn nesaf.

"Mae'r athrawon, y staff a phobl y gymuned yn ardal Clydau a gogledd Sir Benfro yn grac iawn bo nhw 'di agor yr ymgynghoriad diwrnodau cyn y Dolig."

Yn ol y Cyngor, maen nhw 'di colli swyddogion yn yr adran addysg sydd 'di creu oedi gyda'r broses.

Yn y Siambr, cyflwynodd cymunedau Maenorbyr a Chlydau ddeisebau yn erbyn cau eu hysgolion.

Ar hyn o bryd, mae 28 o blant yn cael eu haddysg mewn neuadd bentref yn Jameston ar ol i Ysgol Maenorbyr gael ei difrodi'n wael gan dan dair blynedd yn ol.

Mae 'na 35 o ddisgyblion yn Ysgol Clydau sydd ym mhentref Tegryn yng ngogledd y sir.

Ar adegau, roedd 'na ddagrau ymhith yr ymgyrchwyr wrth wrando ar yr areithiau.

Mae disgwyl penderfyniad terfynol ym mis Mawrth.

Yn ol yr Aelod Cabinet, mae 'na ormod o lefydd gwag yn y sir.

"We have to do something to address the number of surplus places that we have is to ensure that our children are getting the best education."

Do you accept that closing rural schools like Maenorbyr and Clydau threatens the viability of rural communities?

Without schools, people don't want to live there.

"I am concerned about that.

"The best way for me to satisfy myself as the person who will be proposing the recommendation is to listen to what members of the community have to say."

"Mae 'na opsiynau sydd heb gael eu hystyried na'u trafod gyda'r gymuned a dyna un o alwadau'r ddeiseb.

"Bod y Cyngor yn siarad."

Yn ystod y cyfarfod llawn, cefnogwyd ymgynghoriad ar ad-drefnu ysgolion cyfrwng Saesneg yn ardal Dinbych-y-pysgod.

Fis diwethaf, clywodd gynghorwyr bod angen gosod to newydd ar ysgol gynradd cyfrwng Saesneg y dref am fod problemau gyda'r strwythur ar gost o dros £10 miliwn.

Nawr, mae 'na gynlluniau posib i sefydlu un ysgol i blant rhwng 3 a 19 oed

ar ddwy safle gyda'r posibilrwydd o greu un campws yn Greenhill yn y pendraw.

Gallai Ysgol Stepaside gau hefyd gyda'r plant yn symud i Saundersfoot.

Mae 'na 2,000 yn llai o blant yn Sir Benfro o'i gymharu a 1996.

Ond mae sawl cymuned, fel Tegryn yn poeni beth fydd yr effaith ar fywyd y pentref heb swn plant yn chwarae yma yn y dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.