Prif Weithredwr Oxfam wedi camu lawr wedi cwestiynau am ei hymddygiad

Dr Halima Begum, Oxfam

Mae Prif Weithredwr Oxfam wedi gorfod rhoi'r gorau i'w swydd ar ôl i adolygiad annibynnol ddod i'r casgliad bod yna gwestiynau "difrifol" am ei hymddygiad a'i phenderfyniadau.

Yn ôl papur newydd The Times fe wnaeth 70 o aelodau o staff arwyddo llythyr yn galw ar Oxfam i ymchwilio dull o reoli Dr Halima Begum. Mae The Times hefyd yn dweud bod nifer o staff wedi gadael yr elusen ar ôl gwrthdaro gyda hi.

Mewn datganiad i'r BBC dywedodd Oxfam fod yna adolygiad wedi ei gynnal gan fwrdd yr ymddiriedolwyr.

Y bwriad oedd edrych ar bryderon ynglŷn â "arweinyddiaeth, dull o reoli a thriniaeth" Dr Begum.

Fe gafodd y bwrdd dystiolaeth ddogfennol a thystiolaeth gan 32 o bobl sydd yn gweithio neu wedi gweithio i'r elusen.

Ymhlith y canfyddiadau yn yr adroddiad oedd problemau gyda'i hymddygiad o safbwynt arwain tîm a'i phenderfyniadau ac "ymyrraeth amhriodol i ymchwiliadau diogelwch".

Mae Dr Begum wedi gadael ei rôl.

Yn ôl yr elusen y nod nawr yw rhoi "sefydlogrwydd" i'r staff ac "ail- ennill hyder" ar draws y sefydliad.

Maent hefyd yn dweud bod camau wedi eu cymryd i "gryfhau goruchwyliaeth" a bod y gwaith wedi cychwyn i edrych ar yr argymhellion sydd yn yr adroddiad.

Llun: Fisher Studios/Oxfam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.