'Gwneud yn fawr o'r cyfle': Y Gymraes Amber Davies wedi cyrraedd ffeinal Strictly
Mae'r Gymraes Amber Davies wedi cyrraedd ffeinal sioe Strictly Come Dancing.
Fe benderfynodd y beirniad ei dewis ar ôl iddi orfod dawnsio o'u blaenau er mwyn sicrhau ei lle, ar ôl pleidlais gan y cyhoedd . Roedd yr actores Eastenders Balvinder Sopal yn yr un sefyllfa â hi.
Mae'r Gymraeg wedi chwarae rhan yn nhaith Amber, sy'n 29 oed, yn y sioe gyda fideo o'i chyfnod yn cystadlu gyda'r Urdd a hefyd neges o gefnogaeth iddi gan Ysgol Glan Clwyd.
Mae Davies wedi wynebu beirniadaeth a sylwadau cas ar-lein am fod rhai yn dweud bod ganddi fantais oherwydd ei chefndir yn y West End.
Ar y rhaglen deledu nos Sadwrn fe ddywedodd ei phartner dawnsio Nikita Kuzmin: "Ti wedi cael cymaint o gasineb bob un diwrnod ers i ti ymuno, ti wedi cael cymaint o gasineb wythnos yma ac eto ti'n dod i'r ystafell hyfforddi gyda gwen fawr ac yn anwybyddu pawb."
Ychwanegodd y dylai pobl fod yn "garedig achos dyw e ddim yn costio dim a dwyt ti (Amber) ddim yn haeddu dim o hyn".
Fe ymunodd Davies gyda'r gystadleuaeth ar ôl i Dani Dyer dorri ei ffêr wrth ymarfer yn gynnar yn y gyfres.
Ers bod yn rhan o'r sioe mae wedi cael marciau llawn gan y beirniad deirgwaith, ond hefyd wedi gorfod dawnsio o'u blaenau i sicrhau ei lle deirgwaith.
Wedi'r canlyniad dywedodd Amber ar instagram nad yw "ennill yn bwysig" iddi a'i bod hi wastad wedi eisiau "gwneud yn fawr o'r cyfle anhygoel munud olaf dwi wedi ei gael".
Ychwanegodd: "Fe fyddai yn gwerthfawrogi yn llwyr bob un eiliad o'r wythnos olaf gyda fy mhartner, wythnos olaf o wthio fy hun, chwerthin, dysgu, tyfu ac o nabod fi llawer o grio."