Hong Kong: Canfod yr ymgyrchydd o blaid democratiaeth Jimmy Lai yn euog

Jimmy Lai

Mae’r cyn ddyn busnes a’r ymgyrchydd o blaid democratiaeth Jimmy Lai wedi ei ganfod yn euog mewn llys yn Hong Kong o darfu ar gyfraith a threfn yn y ddinas.

Roedd y cyhuddiadau wedi eu gwneud dan ddeddf Diogelwch Cenedlaethol a gafodd ei chyflwyno yn y ddinas gan lywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina.

Clywodd y llys bod Jimmy Lai wedi defnyddio ei bapur newydd Apple Daily fel rhan o ymdrech i lobïo llywodraethau tramor i osod sancsiynau ar Hong Kong a Tsieina. Mae'r papur newydd bellach wedi dod i ben. 

Roedd Lai, sy’n 78 oed, wedi pledio’n ddieuog i bob cyhuddiad, ac mae yn wynebu’r posibilrwydd o garchar am oes. 

Mae’r broses gyfreithiol wedi denu beirniadaeth gan gefnogwyr ac arweinwyr tramor ledled y byd, gan gynnwys Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump.

Mae llywodraeth Tsieina yn dweud mai nod y gyfraith yw “adfer sefydlogrwydd” yn y ddinas wedi protestiadau yno yn 2019.

Mae prif weithredwr Hong Kong, John Lee, wedi croesawu'r dyfarniad, gan ddweud bod gweithredoedd Lai wedi "niweidio buddiannau'r wlad a lles pobl Hong Kong”.

Doedd yna “ddim amheuaeth" bod Jimmy Lai wedi "meithrin casineb" at Tsieina meddai'r Barnwr Esther Toh ddydd Llun. 

Dywedodd ei fod wedi cael "gwahoddiad cyson i'r Unol Daleithiau i helpu i ddymchwel llywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina gyda'r esgus o helpu pobl Hong Kong".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.