Carchar i ddyn o Bwllheli am geisio cyflenwi cyffuriau yng ngŵyl Creamfields
Mae dyn o Bwllheli wedi’i garcharu ar ôl cyfaddef iddo geisio cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon mewn gŵyl gerddorol.
Fe wnaeth Caleb Jones, 21 oed, bledio’n euog i feddu ar y cyffur Dosbarth A, MDMA, a’r cyffur Dosbarth B, Cetamin, gyda'r bwriad o’u cyflenwi.
Ar ddydd Gwener 25 Awst, fe wnaeth Jones gerdded tuag at fynedfa gŵyl Creamfields, ger Daresbury yn Sir Gaer.
Wrth iddo gerdded tuag at y fynedfa, dywedodd wrth y staff diogelwch ei fod â chyffuriau anghyfreithlon yn ei feddiant.
Cafodd Jones ei symud, cyn i staff ddarganfod cyffuriau oedd wedi'u cuddio mewn poteli siampŵ, jel cawod a thalc.
Daeth swyddogion Heddlu Sir Gaer o hyd i 85 o dabledi MDMA, 7.42 gram o MDMA wedi’i grisialu, a 4.34 gram o cetamin.
Roedd cyfanswm gwerth y cyffuriau tua £1,250.
Fe wnaeth swyddogion feddiannu’r cyffuriau a gwrthod mynediad i’r ŵyl i Jones. Cafodd apwyntiad hefyd ei drefnu iddo fynychu cyfweliad gwirfoddol.
Yn ystod y cyfweliad, dywedodd Jones ei fod yn mynd i’r ŵyl gyda 20 o ffrindiau ac wedi cytuno i gludo’r cyffuriau ar eu rhan er mwyn iddyn nhw eu rhannu.
Ond roedd negeseuon destun oedd ar ffôn Jones yn dangos ei fod eisoes yn cyflenwi cyffuriau ac yn bwriadu eu gwerthu yn Creamfields.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caer ddydd Mawrth, fe gafodd Jones ddedfryd o ddwy flynedd a phedair mis yn y carchar.
Dywedodd y Cwnstabl Tony Icke: “Er bod Jones wedi cyfaddef ei gamymddygiad cyn iddo fynd i mewn i’r ŵyl, roedd yr hyn a wnaeth yn anghyfreithlon.
“O ganlyniad i’w weithredoedd, gall nawr edrych ymlaen at dreulio’r Nadolig yn y carchar, lle bydd yn gallu myfyrio ar ei ymddygiad.”