'Golygu popeth': Y para-rwyfwr Ben Pritchard yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru

Ben Pritchard

Y para-rwyfwr Ben Pritchard sydd wedi ennill Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru eleni.

Mae Pritchard yn 33 oed ac yn dod yn wreiddiol o'r Mwmbwls ger Abertawe.

Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn chwaraeon ers iddo fod yn blentyn ifanc.

Hwylio oedd ei gariad cyntaf ac ymunodd â Chlwb Hwylio’r Mwmbwls cyn cynrychioli Cymru a Phrydain Fawr mewn cystadlaethau ieuenctid.

Cafodd ei ysbrydoli gan un o’i athrawon i ddechrau beicio a chystadlu yn y triathlon, felly roedd yn ymddangos mai dyna fyddai ei yrfa chwaraeon.

Ond yn 2016, fe wnaeth damwain feicio ei adael wedi ei barlysu o’i asennau i lawr.

Yn dilyn y ddamwain cafodd ei gyflwyno i chwaraeon addasol a dechreuodd rwyfo.

Tair blynedd yn ddiweddarach, roedd yn cynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2019.

Fe aeth ymlaen i ennill medal aur yn y Gemau Paralympaidd yn 2024, gan hefyd gipio aur yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd a Phencampwriaeth y Byd eleni.

'Golygu popeth'

Wrth dderbyn y wobr Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru 2025, dywedodd Pritchard ei fod yn "golygu popeth" iddo.

"Mae cael fy nghydnabod ymhlith arwyr o’r byd chwaraeon y mae fy nheulu wedi sôn amdanynt ers cenedlaethau yn anhygoel," meddai.

"Mae’n gydnabyddiaeth am yr holl waith caled dros y blynyddoedd. Naw mlynedd yn ôl roeddwn i’n gorwedd mewn gwely yn yr ysbyty, dim ond yn anelu at gyrraedd y Paralympics a byw fy mywyd eto - a dyma fi, yn ennill y wobr fwyaf ym myd chwaraeon Cymru."

Mae golygon Pritchard bellach wedi’i hoelio ar gemau Los Angeles 2028 lle bydd yn ceisio amddiffyn ei deitl a dod yn bencampwr Paralympaidd ddwywaith.

Cafodd Pritchard ei ddewis ar gyfer y wobr gan banel oedd yn cael ei arwain gan gadeirydd Chwaraeon Cymru, y Farwnes Tanni Grey-Thompson.

"Roedd yn benderfyniad anodd iawn. Mae Cymru unwaith eto wedi dangos ei bod yn gallu cynhyrchu athletwyr talentog iawn ar draws ystod eang o chwaraeon," meddai'r Farwnes Grey-Thompson.

"Mae Ben wedi cael blwyddyn anhygoel ar ôl ennill ym Mharis, gan ategu hynny gyda record byd. Mae’n gam mawr ymlaen o’r efydd yn 2022.

"Roedd yn wych cael panel gydag ystod eang o arbenigedd i edrych ar yr ymgeiswyr i gyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.