Galw am fwrw ymlaen gyda chynllun i adfywio ardal glan môr Porthcawl
Galw am fwrw ymlaen gyda chynllun i adfywio ardal glan môr Porthcawl
Ai dyma sut y bydd tref Porthcawl yn edrych yn y dyfodol?
Dyma'r cynlluniau mae Cyngor Sir Pen-y-bont wedi datgelu i'r cyhoedd.
Y bwriad yw adfywio tref glan mor sydd wedi gweld dyddiau gwell.
Gyda ffair adnabyddus Traeth Coney bellach wedi cau mae 'na angen i roi bywyd newydd i'r safle a'r buddsoddiad gwerth miliynau yn ol yr awdurdod lleol.
"Mae cyflwr yr adeiladau wedi dirywio dros y blynyddoedd.
"Mae nifer o adeiladau mawr wedi adfeilio.
"Mae angen pwmpio llawer o arian mewn i'r ardal.
"Mae'r teulu sy wedi bod yn berchen ar y ffair am dros 100 mlynedd ddim moyn rhedeg y ffair rhagor.
"Dyw'r adnodd ddim yn cael ei ddefnyddio yn yr un ffordd ac mae angen newid."
I'r busnes bwyd a maeth yma sydd wedi agor safle ym Mhorthcawl mae'n gyfle i ddenu rhagor o bobl i'r dref.
"'Dan ni angen datblygu a dod a mwy o bethau 'ma i bobl weld ar social media a phopeth eraill.
"I nhw wario arian mewn lle fel hyn, mae angen datblygu e.
"Dw i'n credu bod y cynlluniau'n arbennig."
Dywed y cyngor sir fod miliynau'n cael ei fuddsoddi i drawsnewid yr ardal glan mor ym Mhorthcawl gan gynnwys y maes parcio di-nod yma fydd safle y lido newydd.
Tu ol i fi, dyma safle ffair adnabyddus Coney Beach.
Bydd hwnnw'n ddiflannu i roi le i adnoddau hamdden cyfleusterau i fusnesau a nifer o gartrefi.
Ond wedi blynyddoedd o addewidion a chyfaddawdu mae rhai'n credu bod hi'n hen bryd i'r cynlluniau yma weld golau dydd.
"Mae pobl o'r Rhyl a'r Barri'n dweud am y cynlluniau pam na gewn ni beth mae Porthcawl yn cael?
"Mae angen i ni sicrhau bod hwn yn digwydd.
"Mae pobl am wybod pryd ac eisiau mynd amdani.
"Maen nhw 'di aros digon ac mae'n amser i Borthcawl fynd i'r goleuni."
Dynluniadau sy'n dal y llygad ond i rai yn y sesiwn ymgynghori yma, mae 'na bryderon.
"Rwan, mae'r ffordd drwy'r dref yn llawn dop.
"Dydy'r siopau ddim ar gau.
"Mae'n fywiog trwy'r flwyddyn ac mae pobl yn dod i mewn.
"Tasen nhw ddim yn medru parcio, bydden nhw'n dod yma?
"Wn i ddim.
"Maen nhw'n cynllunio cael siopau newydd ar y promenade felly bydd siopau jyst yn symund o un lle i'r llall?"
I sawl un, mae Porthcawl yn dod ag atgofion melys o ddyddiau braf ar un o draethau poblogaidd de Cymru.
Cynnig yr un profiad dros y degawdau i ddod yw'r her nesaf.