Gwaith adeiladu tai yn y de wedi oedi yn sgil pryder am ansawdd dŵr
Gwaith adeiladu tai yn y de wedi oedi yn sgil pryder am ansawdd dŵr
Mae'r gwaith o adeiladu tai ar stop ar draws rhan helaeth o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe.
Hynny, ar ol asesiad o gyflwr ardaloedd cadwraeth yr arfordir godi pryder am ansawdd dwr.
Roedd llygredd o ffermydd a systemau carthffosiaeth yn llifo o afonydd i'r mor.
"Mae maethion yn yr afonydd sydd wedyn, yn llifo i'r mor yn cynyddu twf algae sy'n amsugno ocsigen o'r dwr sy'n niweidio'r bywyd gwyllt yn yr afonydd a'r mor.
"Mae 'na lygredd o bob math o ffynhonnell po fwyaf o ddiwydiannau gwledig, megis amaeth.
"Ond hefyd o ddwr gwastraff.
"Gwraidd y broblem yw bod gormod o lygredd a'r afonydd yn methu adfer.
"A hynny, oni bai bod rhyw fath o gyfaddawd."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru am i brosiectau adeiladu newydd brofi na fydden nhw'n ychwanegu at y broblem cyn cael caniatad cynllunio.
Mae'r cyngor hwnnw i awdurdodau lleol wedi cael effaith sylweddol gydag 11,000 o dai'n sownd yn y system gynllunio yn y gorllewin.
Mae'r goblygiadau'n ddifrifol i'r diwydiadnt adeiladu'n lleol yn ol cyfarwyddwr un cwmni yng Nghaerfyrddin.
"Yn wahanol i'r swyddogion sy'n gwneud y penderfyniadau hyn yr unig ffordd fi'n gallu talu pobl yw trwy wneud gwaith adeiladu.
"Fi'n gweithio gyda lot o fusnesau megis pensaer sydd wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i gael gwared a phobl yn uniongyrchol achos y sefyllfa 'ma.
"Gall hwn gymryd cwpl o flynyddoedd i sorto mas.
"Mae'n erchyll i'r diwydiant yn ne-orllewin Cymru."
Yn ol cymdeithasau tai mae dros 2,000 o dai fforddiadwy yn y fantol.
Maent yn galw i gael eu heithrio o'r gofynion newydd.
"Rhaid cael rhyw fath o gynllun i fynd ymlaen a hwn.
"Dydyn ni ddim yn y lle gorau ar hyn o bryd.
"Mae swyddi'n cael eu colli yn yr ardal o achos hyn.
"Ni'n gwybod pa mor anodd mae'r economi heddiw.
"Adeiladu tai yw un o'r pethau gorau gallwn wneud i ailagor yr economi."
Mynnu roedd rhaid gweithredu'n bendant mae CNC gydag ecosystemau hanfodol sydd wedi'u gwarchod dan fygythiad.
Maent yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddod o hyd i ffyrdd fydd yn caniatau i waith adeiladu ailgychwyn mewn modd cynaliadwy.
"Sdim dwywaith bod 'na resymau i ni fod yn ofalus iawn yn enwedig yn yr ardaloedd sensitif ym Mhenfro a Bae Abertawe.
"Oes, mae angen rheoleiddio ond mae'r modd mae hynny wedi digwydd ydy'r pryder ymysg y bobl hynny.
"Cawlach llwyr ydy'r sefyllfa bresennol."
Dweud i'r Prif Weinidog sefydlu tasglu a chynnig cyllid newydd i fynd i'r afael a'r trafferthion mae Llywodraeth Cymru.
Yn y tymor hir, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ddatblygwyr tai dalu ffi i wneud yn iawn am unrhyw lygredd.
Am y tro, mae nifer o brosiectau'n wynebu oedi yn y de-orllewin.