
Covid-19: Gweithwyr iechyd yn 'pryderu yn fawr' am y misoedd i ddod

Covid-19: Gweithwyr iechyd yn 'pryderu yn fawr' am y misoedd i ddod
Mae ymgynghorydd iechyd wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C fod gweithwyr iechyd yn "pryderu yn fawr” am y misoedd i ddod.
"'Da ni yn rhedeg allan o welyau, ma' bob ysbyty ar draws Cymru dan bwysau enfawr ar hyn o bryd, sydd fel arfer yn cael ei gweld dros y Dolig, y flwyddyn newydd, mewn i Ionawr a Chwefror” dywedodd Dr Dai Samuel.
"Os ma' fe fel hyn nawr ym mis Awst beth fydd yr Hydref a'r gaeaf yn delio i ni?
"Fi'n credu bod pob un ohonom ni sy'n gweithio yn yr ysbytai, ac yn y gymuned, a'r GP'S ac ati yn pryderu yn fawr iawn be fydd yn digwydd yn y misoedd i ddod.
"I ni'n gweld pobl 'da pethe fel RSV a heintiau eraill bydde ni fel arfer yn gweld falle mis Tachwedd, mis Rhagfyr yn dod mewn, a ma'r pwysau yn enfawr ar ben y pwysau mae Covid dal yn rhoi arnom ni, a'r pwysau mae wedi creu yn y gorffennol wrth i ni ceisio dod allan o'r pandemig a delio 'da'r rhestrau aros.”

Fodd bynnag mae Dr Dai Samuel yn cydnabod bod y brechlyn wedi gwneud gwahaniaeth.
"Ar y cyfan 'da ni mewn lle gwbl wahanol i amser 'ma flwyddyn ddiwethaf,” meddai.
"'Da ni'n gweld pobl, hyd yn oed y rhai sy' yn dod mewn i'r ysbyty ac angen dod mewn i'r ysbyty, di nhw ddim yn mynd ymlaen i fynd i'r ICU ac ati yn gorfod mynd ar 'ventilator' yn yr un ffordd ac odd nhw amser 'ma flwyddyn ddiwethaf ac yn y gaeaf.
"Felly dwi'n credu ar y cyfan 'da ni'n teimlo bod y brechlyn yn gweithio, dyw unrhyw beth byth yn cant a cant o ran effeithrwydd, ac rwy'n credu ma' fe dal yn bwysig tracio hyn trwy’r gaeaf, enwedig wrth i ni falle defnyddio'r 'boosters' ac ati.”