Catrin Feelings: 'Golygu lot' i gael cefnogaeth dad ar raglen RuPaul's Drag Race

Catrin Feelings: 'Golygu lot' i gael cefnogaeth dad ar raglen RuPaul's Drag Race

Mae'r perfformiwr sydd tu ôl i'r seren drag Catrin Feelings yn dweud ei fod yn "golygu lot" i gael cefnogaeth ei dad ar raglen RuPaul's Drag Race.

Fe wnaeth Ellis Lloyd Jones o Dreorci, sydd tu ôl i'r cymeriad lliwgar, gyrraedd rownd derfynol y gyfres eleni.

Cyfres yw RuPaul's Drag Race lle mae 12 brenhines drag yn cystadlu mewn heriau wythnosol er mwyn ceisio ennill y goron.

Roedd tad Ellis, Kev wedi ymddangos ar y rhaglen eleni gan ddweud ei fod yn "hynod falch" o'i fab.

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Ellis ei fod yn "golygu lot" i gael cefnogaeth ei dad ar y rhaglen.

"I gael dad i ddod ar y rhaglen fi’n gwybod o’dd hwnna ‘di cymryd lot i fe neud hwnna," meddai.

"A fel wnaeth nhw ‘weud ar y rhaglen you know, so nhw’n gael lot o’r tadau i ddod ‘mlaen.

"So, i fe neud hwnna you know, mae’n meddwl lot i fi, ond fi’n gwybod mae e’n meddwl lot i lot o bobl sydd yn gwylio."

Image
Kev yn cofleidio'i fab Ellis ar y rhaglen. Llun: RuPaul's Drag Race/BBC
Kev yn cofleidio'i fab Ellis ar y rhaglen. Llun: RuPaul's Drag Race/BBC

Dechreuodd Ellis wneud drag yn rheolaidd yn 2021, ond nid dyma'r tro cyntaf iddo arbrofi gyda cholur.

Mae'n cofio'r tro cyntaf i'w dad ei weld yn gwisgo fel drag yn 2018, cyn i Ellis fynychu digwyddiad balchder.

Fe gymerodd peth amser i Kev ddod i'r arfer gyda chymeriad Catrin Feelings, meddai Ellis.

"O’dd e ‘di cymryd dad tipyn bach o amser i fe ddod i’r arfer gyda fi a gyda be’ fi ishe neud gyda fy mywyd," dywedodd.

"Ond, ma’ fe jyst ‘di like sylwi bod, you know, dyma rywbeth sy’n neud i fi hapus like, ma’ fe wastad ‘di gwybod bod fi ‘di caru perfformio.

"Ma’ fe ‘di tyfu fel person i jyst, gweld fi fel ei blentyn e.

"Ac dyna beth yw fi ar diwedd y dydd a dyna be’ wnaeth e ‘weud ar y sioe you know, ma’ fe’n hapus gyda fi yn neud be bynnag fi ishe o leia’ bod fi’n hapus."

'Gwneud unrhyw beth iddo'

Wrth siarad ar raglen RuPaul's Drag Race dywedodd Kev y byddai'n fodlon "gwneud unrhyw beth dros Ellis.

"Fi'n hynod falch ohono," meddai.

Roedd Ellis yn berson oedd yn hoffi perfformio pan oedd e'n tyfu lan.

"Roedd rhaid i mi adeiladu llwyfan iddo yn yr atig iddo wneud sioe, ac fe fyddai'n creu tocynnau a'u gwerthu nhw i mi.

"Fydden ni yn gwneud unrhyw beth iddo a does dim ots gen i ba rywioldeb wyt ti, dwi ddim yn becso am unrhyw beth achos byddwn ni pob tro yn dy garu di."

Ychwanegodd ei fod yn "hynod drist" nad oedd llawer o dadau'n mynd ar y sioe i gefnogi eu plant.

Image
Catrin Feelings yn perfformio. Llun: RuPaul's Drag Race/BBC
Catrin Feelings yn perfformio. Llun: RuPaul's Drag Race/BBC

Mewn fideo ar gyfrif Instagram Catrin Feelings, dywedodd yn y Gymraeg: "Dechreuwch eich injans," sydd yn gyfieithiad o un o linellau mwyaf eiconig y gyfres, 'Ladies and Gentlemen, start your engines'.

Mae Ellis wedi sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei chlywed ar y rhaglen. Trwy gydol yr heriau roedd Catrin Feelings yn diolch i'r beirniaid yn y Gymraeg, ac yn siarad Cymraeg ar gamera yn gyson.

Yn yr heriau roedd Cymru a'r Gymraeg yn amlwg, yn enwedig pan wisgodd Ms Feelings wisg draddodiadol Gymreig.

Dywedodd Ellis ei fod yn "naturiol" defnyddio'r Gymraeg ar y rhaglen. Roedd o eisiau "gwneud yn siŵr" bod yr iaith yn cael ei gweld ar y gyfres oedd yn cael ei darlledu ar y BBC.

"Yr ymateb i fi yn ddefnyddio’r Gymraeg ar y rhaglen ‘di bod yn popeth o’n i ishe fe i fod," meddai.

"Pob tro o’n i yn siarad Cymraeg ar y  rhaglen o’dd e’n teimlo fel rhywbeth like, not out of place achos ma’ fe jyst yn rhywbeth mor naturiol i fi.

"Pob tro o fi naill ai ar y sgrin yn siarad Cymraeg neu’n dod mas yn fy ngwisg traddodiadol Gymraeg o’dd pawb jyst yn caru fe a dyna pryd o’n i ‘di sylwi like, dyna pam nes i neud e.

"Dyna pam o’n i’n neud yn siŵr, ac i sicrhau o’n i yn siarad Cymraeg achos dyna pryd nes i sylwi like yr effaith o’dd hwnna yn gael ar bobl, yn enwedig y Cymry.

"Bod you know, y iaith Gymraeg yn cael ei platfformo ar platfform enfawr ‘ma sy’n cael ei darlledu ar draws y cenedl i gyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.