'Dim byd i ‘neud hefo’n cyrff ni': Cyn-nofiwr proffesiynol am 'chwalu'r ystrydeb' am arnofio
Mae'r cyn-nofiwr proffesiynol a'r newyddiadurwr Seren Jones yn awyddus i 'chwalu'r ystrydeb' na all pobl o gefndiroedd Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd arnofio na nofio.
Fe fydd Seren Jones yn cyflwyno'r rhaglen Seren Jones: Yn Fyw yn y Dŵr a fydd yn cael ei darlledu ar S4C nos Iau, ac mae'n awyddus i fynd at wraidd yr ystrydeb "esgyrn trymion".
Yn ôl yr ystrydeb, mae gan bobl o gefndiroedd Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd esgyrn trymach, sy’n effeithio ar eu gallu i arnofio.
Ond mae canlyniadau newydd gan Brifysgol Portsmouth, dan arweiniad y Black Swimming Association (BSA) a chefnogaeth Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) yn chwalu'r meddylfryd hwn.
Mae'r rhaglen yn dilyn seren wrth iddi siarad ag arbenigwyr yn y maes yn ogystal â rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan ddamweiniau a marwolaethau yn y dŵr.
Bu farw David, mab Maria Ejimofor, ym mis Gorffennaf 2023 ar ôl boddi yn y môr oddi ar draeth Aberafan, Port Talbot wrth iddo ddathlu diwedd ei arholiadau TGAU gyda'i ffrindiau.
Dywedodd ei fam, Maria: "Doedd gen i ddim pryderon oherwydd ei fod wedi bod i’r traeth o’r blaen. Dywedon ni ‘Iawn, David, ond cymer ofal o dy hun’.
“Yna fe aeth, ac yn drist, fe aeth i drafferthion yn y dŵr a bu farw."
Mae ystadegau yn dangos fod 400 o bobl yn boddi yn ddamweiniol yn y DU bob blwyddyn.
Dim ond 35% o blant Cymru sy'n gallu nofio 25m heb gymorth yn ôl ymchwil hefyd.
Roedd Seren Jones yn un o bedwar o bobl yn 2020 a wnaeth sefydlu'r Black Swimming Association (BSA), ac un arall o'r pedwar oedd Alice Dearing, y fenyw ddu gyntaf i nofio dros Brydain yn y Gemau Olympaidd.
"Dwi wedi sylweddoli nad yw pobl ddu a chymysg, a phobl Asiaidd, yn cael y cyfleoedd hyn oherwydd maen nhw eisoes wedi cael gwybod ers y diwrnod y cawsant eu geni na fyddan nhw’n nofwyr effeithlon," meddai Alice.
Wrth i Seren ddychwelyd i'r UDA, lle'r oedd hi’n gapten ar y tîm nofio yn ystod ei hastudiaethau prifysgol, mae'n gweld sut mae agweddau eisoes wedi dechrau newid.
"Y gwir plaen yw mai hiliaeth, gwahanu ar sail lliw, a rhwystrau hanesyddol sydd wedi creu’r myth nad yw pobl ddu yn gallu nofio.
“Dyw e ddim byd i ‘neud hefo’n cyrff ni. Gall pawb ddysgu sut i arnofio. Gall pawb ddysgu nofio. Mae’r ymchwil yn profi hynny.”