Covid-19: Tynnu plant a phobl ifanc oddi ar y rhestr warchod
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi na fydd plant a phobl ifanc yn derbyn cyngor i gysgodi rhag Covid-19 yn y dyfodol, hyd yn oed os oeddent wedi eu hystyried yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol o ganlyniad i'r feirws.
Daeth cadarnhad gan Eluned Morgan fore Mercher y bydd plant a phobl ifanc yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr gwarchod cleifion.
Ni fydd hi'n ofynnol mwyach i tua 2,700 o blant a phobl ifanc warchod eu hunain os bydd y mesurau gwarchod yn gorfod cael eu hail-gyflwyno.
Daw'r penderfyniad wedi "adolygiad cynhwysfawr o'r dystiolaeth" ac mae'r cam wedi ei argymell gan bob un o Brif Swyddogion Meddygol y DU.
Dywed y llywodraeth fod plant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai a gafodd eu hystyried yn wreiddiol o fod yn eithriadol o agored i niwed, yn wynebu perygl isel iawn o fynd yn ddifrifol wael neu farw o'r feirws.
Roedd y canfyddiadau hyn yn rhan o astudiaeth a gafodd ei chomisiynu gan Lywodraeth y DU.
Fe fydd pobl plentyn a pherson ifanc sydd wedi eu heffeithio gan y newid yn derbyn llythyr gan y prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton, yn egluro nad ydynt bellach wedi eu hystyried yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol o ganlyniad i Covid-19.
Serch hynny, mae'r llywodraeth yn cynghori'r sawl sydd wedi eu heffeithio gan y newid i barhau i gymryd camau i leihau eu risg o ddal y feirws.
Bydd y broses o frechu rhai plant rhwng 12 a 15 oed sydd â chyflyrau iechyd penodol, neu sy'n byw gydag unigolion sydd â systemau imiwnedd gwan, yn parhau, yn unol â chyngor diweddar y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.
'Dim ond y rhai sydd wir angen'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: "Rydyn ni wedi bod yn ofalus tu hwnt, a gweithredu ar sail data drwy gydol y pandemig ac rydyn ni’n parhau i wneud hynny. Rydyn ni wedi edrych yn ofalus ar y data o'r 18 mis diwethaf, ac wedi ein sicrhau na ddylai plant a phobl ifanc a ystyriwyd yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn flaenorol gael eu cynnwys ar y rhestr gwarchod cleifion bellach oherwydd bod y risg o salwch difrifol neu farwolaeth o'r coronafeirws yn isel iawn.
"Mae'r pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar blant a phobl ifanc, gyda llawer yn colli'r ysgol ac yn methu cwrdd â theulu a ffrindiau. Bydd y newid i'r rhestr warchod yn sicrhau mai dim ond pobl sydd wir angen dilyn y cyngor hwn sy'n aros ar y rhestr.
"Rydyn ni’n dal i ddysgu am effeithiau haint coronafeirws, gan gynnwys Covid hir, ac rwy'n annog pawb yng Nghymru i barhau i wneud popeth o fewn eu gallu i leihau'r risg o ddal y feirws a helpu i ddiogelu Cymru a'u hanwyliaid."