Cymru yn yr un grŵp â Lloegr yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2027

Jac Morgan

Fe fydd Cymru yn wynebu Lloegr, Tonga a Zimbabwe yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2027.

Wrth dynnu enwau allan o’r het ddydd Mercher, fe gafodd Cymru wybod pa dair gwlad y byddant yn eu herio yng Ngrŵp F yn Awstralia.

Fe fydd Cymru yn wynebu’r Saeson, sydd yn drydydd yn y byd ar yn o bryd, Tonga sydd yn 18fed a Zimbabwe, sydd yn 24ain.

Roedd Cymru, sydd yn 11eg yn y byd ar hyn o bryd, wedi eu rhoi ym mhot dau o'r detholion.

Fe fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn ystod Hydref a Thachwedd 2027.

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru a Lloegr gwrdd mewn grŵp Cwpan y Byd ers 2015.

Y Cymry enillodd o 28-25 mewn gêm gofiadwy yn Twickenham y tro hwnnw.

Ond mae'r darlun wedi newid yn sylweddol ers hynny, gyda Chymru yn disgyn i safle 14 yn gynharach eleni ar ôl dioddef crasfa 14-68 gan Loegr yn y Chwe Gwlad  fel rhan o rediad o 18 colled o'r bron.

Maen nhw bellach wedi codi i'r 11eg safle ar ôl dwy fuddugoliaeth dros Japan dros yr haf a'r hydref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.