Adnoddau iechyd menywod mewn ysgolion yn 'gam masif ymlaen'

Bethan Jenkins

Mae menyw o Aberdâr sy’n byw â chyflwr endometriosis wedi dweud y gallai adnoddau newydd mewn ysgolion fod yn “gam masif ymlaen” o ran iechyd menywod. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ddydd Mercher y bydd deunydd addysg ar gyfer y mislif, endometriosis, iechyd y pelfis a’r menopos, bellach ar gael yn holl ysgolion uwchradd Cymru. 

Mae Bethan Jenkins, 40 oed o Gwmaman, wedi bod yn dioddef o'r cyflwr gynaecolegol endometriosis, sy'n gallu achosi poen difrifol a mislif trwm, ers ei harddegau cynnar.

Ond ni chafodd hi ddiagnosis tan 2021. 

Mae’n gobeithio y gallai’r adnoddau newydd gyflymu’r broses o dderbyn triniaeth i’r genhedlaeth nesaf. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Pan o’n i yn yr ysgol oddan ni’n dysgu am y gylchred fislifol a sut oedd hwnna’n gweithio ond o’n i byth rili wedi cael gwybod beth oedd mislif normal yn fod i deimlo fel.

“O’n i byth yn gwybod os oedd e boenus ac yn rili drwm dylse chi fynd at ddoctor ‘chos dyw e ddim yn normal. 

“Os oes adnoddau ar gael sy’n gallu fflagio pethau i ferched yn gynnar, mae hwnna’n gam masif ymlaen.”

'Stigma'

Mae Bethan yn angerddol dros godi ymwybyddiaeth am endometriosis, a hithau’n gwneud hynny ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’i chyfrif, ‘Endo a Ni.’ 

Ond mae’n dweud bod stigma yn dal ynghlwm ‘da’r cyflwr a bod angen gweithredu o hyd. 

Mae’n galw am gamau pellach, gan ddweud y dylai meddygon dderbyn rhagor o hyfforddiant penodol er mwyn adnabod y symptomau.  

“[Mae] dal pobl yn meddwl dylwn ni ddim cwyno achos mae fod i frifo. 

“Os mae adnoddau ar gael o’r amser mae merched yn dueddol o ddechrau mislif, bydden nhw yn gallu tracio symptomau a chwilio mas am bethau falle sydd ddim yn arferol iddyn nhw. 

“O ran pethau fel endometriosis, y cynhara’ ti’n dechrau tracio symptomau a bod ti’n sylwi bod rhywbeth ddim yn normal, y gynhara’ galle ti ddechrau ar y broses o trio gweld arbenigwyr a cael diagnosis.

“Fi’n credu hefyd bod angen hyfforddi mwy o ddoctoriaid mewn sut i ddelio gyda problemau iechyd merched, felly falle y galle hwnna fod yn gam nesaf." 

'Gwella'

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd yr adnoddau yn helpu mynd i’r afael ag unrhyw stigma. 

Maen nhw'n dweud fod endometriosis yn flaenoriaeth iddynt er mwyn gwella gofal iechyd merched a menywod. 

Fe wnaeth Rhwydwaith Iechyd Menywod weithio gyda nyrsys ysgol a disgyblion o bob rhan o Gymru i ddatblygu'r deunyddiau newydd. 

Bydd ysgolion uwchradd yn gallu addasu'r adnoddau i gynnwys eu brandio eu hunain. Mae'r deunyddiau hefyd yn gweithio ar draws gwahanol blatfformau gan gynnwys e-byst, taflenni, posteri, cyfryngau cymdeithasol, a chodau QR.

Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: "Trwy weithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc i ddatblygu'r deunyddiau, rydyn ni wedi gallu sicrhau bod y deunyddiau'n rhoi sylw i'w cwestiynau a'u pryderon.

"Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau, a gwella canlyniadau iechyd i fenywod a merched ledled y wlad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.