Merch 17 oed wedi marw o 'sawl anaf trywanu'
Mae cwest wedi clywed fod merch 17 oed wedi marw o sawl anaf trywanu wedi ymosodiad yn ei chartref yng Nghaerffili.
Fe ddioddefodd Lainie Williams sawl anaf cyllell yn y digwyddiad ar 13 Tachwedd yn Wheatley Place, Cefn Fforest.
Fe gafodd mam y ferch 17 oed, Rhian Stephens, 38, hefyd ei hanafu ac roedd yn rhaid iddi gael triniaeth yn yr ysbyty.
Fe gafodd Cameron Cheng, 18, ei gyhuddo o lofruddio Lainie, ceisio llofruddio Rhian Stephens a bod â llafn yn ei feddiant.
Mae Cheng, o Drecelyn yng Ngwent, yn wynebu achos tair wythnos o hyd fis Mai nesaf yn Llys y Goron Caerdydd.
Wrth agor y gwrandawiad byr, dywedodd crwner Gwent, Rose Farmer: "Ar 13 Tachwedd 2025, fe wnaeth Rhian Stephens, mam Lainie, alw 999 yn adrodd fod ei merch yn cael ei thrywanu.
"Fe gyrhaeddodd gwasanaethau brys yr eiddo a bu farw Lainie yn y fan a'r lle."
Ychwanegodd y crwner fod Lainie yna wedi cael ei throsglwyddo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ble y cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal gan batholegydd fforensig ymgynghorol y Swyddfa Gartref. Fe roddodd y patholegydd achos marwolaeth dros dro fel anafiadau gyda gwrthrych miniog.
"Mae cwest wedi cael ei agor gan fod hon yn farwolaeth dreisgar," meddai.
Ychwanegodd Ms Farmer fod ymholiadau yn parhau a bod y cwest wedi ei ohirio tan 24 Awst y flwyddyn nesaf.