Ffyrdd ar gau a rhybuddion llifogydd yn parhau mewn grym wedi glaw trwm
Mae rhybuddion llifogydd yn parhau mewn grym mewn rhannau o Gymru yn dilyn glaw trwm ddydd Llun.
Mi roedd naw rhybudd am lifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru fore Mawrth, ond mae sawl un bellach wedi eu hisraddio.
Mae tri rhybudd yn parhau'n weithredol yn ardaloedd Caerfyrddin, Dinbych y Pysgod a Llandeilo.
Mae 36 rhybudd "byddwch yn barod" yn parhau mewn grym ar draws Cymru hefyd.
Mae sawl ffordd ar gau ar draws Cymru, gan gynnwys yr A487 yng Nghorris, oherwydd gwaith brys sy’n cael ei wneud yno gan Dŵr Cymru.
Mae ffordd yr A499 rhwng Pwllheli ac Abersoch ar gau, yn ogystal â ffordd y B4405 Tan y Coed, yn Abergynolwyn, a ffordd yr A4085 rhwng Pont Aberglaslyn a Llanfrothen, a Rhyd Ddu a Waunfawr.
Yn Sir Gâr, mae’r A4069 Heol yr Orsaf, Llangadog ar gau rhwng cylchfan yr A40(T) a’r bont reilffordd.
Llun: Yr Afon Cynnin yn Sanclêr (SARS Cymru/Facebook)
