Pedoffeil o Sir y Fflint wedi'i garcharu am droseddau rhyw ar ôl targedu plentyn dros Snapchat

Owen Addleton

Mae dyn 22 oed wedi ei garcharu ar ôl ymosod yn rhywiol ar blentyn a chreu delweddau anweddus o blant.

Roedd Owen Addleton o Chester Road West, Shotton wedi pledio’n euog i dri achos o gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol gyda phlentyn a phedwar cyhuddiad o greu delweddau anweddus o blentyn.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun, cafodd ei garcharu am dair blynedd a hanner.

Dechreuodd ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru fis Mawrth 2024, wedi adroddiadau gan ysgol fod disgybl yno wedi datgelu ei bod mewn perthynas ag e.

Fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddarach fod Addleton mewn perthynas rywiol â’r plentyn ac roedd wedi dweud wrthi hi ei fod yn 16 oed.

Roedd y ddau wedi cwrdd ar Snapchat ar ôl i Addleton ei ‘hychwanegu’ fel ffrind, gan ofyn am luniau anweddus ohoni.

Ar ôl ei arestio, fe wnaeth swyddogion feddiannu ei ffôn a darganfod dros 100 o luniau anweddus oedd yn perthyn i’r categori mwyaf difrifol, rhai yn cynnwys plant oedd yn ddwy oed.

Er gwaethaf yr amodau o dan fechnïaeth iddo beidio â chysylltu â’r dioddefwr, fe wnaeth barhau i wneud hynny.

Yn dilyn hynny, fe gafodd ei gyhuddo gan yr heddlu a’i gadw yn y ddalfa.

Yn y gwrandawiad ddydd Llun, cafodd Addleton ei gynnwys ar y gofrestr troseddwyr rhyw am weddill ei oes ac fe dderbyniodd orchymyn atal niwed rhywiol am gyfnod amhenodol.

Dywedodd y swyddog ymchwilio Ann Parry: “Roedd gan Owen Addleton ddiddordeb amlwg mewn merched ysgol, gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i dargedu pobl.

“Mae’r achos hwn yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i blant a’u rhieni wybod yn union gyda phwy maen nhw’n siarad ar-lein, a pheryglon y cyfryngau cymdeithasol.

“Hoffwn roi teyrnged i ddewrder y dioddefwyr a’u teuluoedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.