Yr Urdd yn apelio am gefnogaeth ar gyfer cronfa i blant incwm isel
Mae mudiad Urdd Gobaith Cymru yn cyhoeddi apêl ddydd Mawrth er mwyn annog pobl i gyfrannu tuag at gronfa arbennig a fyddai’n helpu pobl ifanc o gefndir incwm isel.
Nod y Gronfa Cyfle i Bawb yw rhoi gwyliau yn un o wersylloedd yr Urdd i blant a phobl ifanc na fyddai fel arall yn cael y cyfle.
Gyda bron i un o bob tri phlentyn yng Nghymru bellach yn byw mewn tlodi, yn ôl ystadegau, mae’r Urdd yn awyddus i sicrhau “nad oes plentyn yn cael ei adael ar ôl.”
Roedd Chloe Jones, 18 o Gasnewydd, wedi bod ar wyliau yng nghanolfan yr Urdd ym Mhentre Ifan yn Sir Benfro eleni o ganlyniad i nawdd y Gronfa, a gafodd ei sefydlu yn 2018.
“Fedrai ddim dweud pa mor wych oedd yr wythnos – heb os, Pentre Ifan oedd uchafbwynt fy mlwyddyn,” meddai Chloe.
“A finnau wedi cael magwraeth ansefydlog, mae hyn yn sicr wedi agor fy llygaid, ac rydw i mor ddiolchgar i’r Urdd am gefnogi plant a phobl ifanc i gael seibiant ac awyr iach, a dianc rhag eu problemau am ychydig.
“Mae fy Nghymraeg wedi bod yn rhydlyd ers gadael yr ysgol ond ers dod adref, y cyfan rydw i eisiau ei wneud yw siarad Cymraeg.”
'Arbennig'
Fe fyddai cyfraniad o £230 yn mynd tuag at gost gwyliau i un plentyn neu berson ifanc yng Ngwersyll Glan-llyn, Llangrannog, Pentre Ifan neu Gaerdydd.
Byddai hynny’n cynnwys gwyliau rhwng 3 a 5 niwrnod, yn ddibynnol ar y lleoliad, gan gynnwys gweithgareddau, trafnidiaeth i ac o’r gwersyll, tri phryd bwyd y dydd, a chefnogaeth a gofal gan staff y mudiad.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Ers sefydlu’r gronfa, a diolch i gyfraniadau hael, rydym wedi croesawu dros 1,000 o blant a phobl ifanc sy’n byw mewn amgylchiadau heriol ar wyliau i un o’n gwersylloedd dros yr haf. Rydym ni’n gweld gyda’n llygaid ein hunain pa mor arbennig ydy’r profiad iddynt.
“Mae sawl un yn dweud wrth fynd adre fod gwyliau gyda’r Urdd yn un o brofiadau gorau eu bywyd a’u bod nhw eisiau aros yma trwy’r haf.
"Mae’r plant a’r bobl ifanc yn blodeuo mewn ychydig ddyddiau; yn magu hyder, gwneud ffrindiau newydd, datblygu eu sgiliau Cymraeg ac yn mwynhau eu hunain heb orfod poeni am unrhyw beth.”
'Atgofion oes'
Yn gynharach eleni fe wnaeth yr Urdd gydweithio gydag elusen Achub y Plant er mwyn paratoi ei Neges Heddwch ac Ewyllys Da, gan dynnu sylw at y ffaith fod cynifer o blant bellach yn byw mewn tlodi.
Meddai Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: “Mae gormod o blant yn colli’r cyfle i wneud pethau ddylai fod yn rhan annatod o blentyndod: mynd ar drip ysgol, mwynhau chwaraeon, cerddoriaeth a chael cyfle i chwarae a threulio amser gyda ffrindiau.
“Mae Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd yn rhoi cyfle arbennig i blant, beth bynnag eu sefyllfa neu eu cefndir, i wneud atgofion oes a chymryd rhan mewn gweithgareddau fydd o fudd i’w llesiant, eu hyder a’u datblygiad.”
Mae unigolion, busnesau, sefydliadau, elusennau a chynghorau tref a chymuned bellach yn cael eu hannog i gyfrannu i’r Gronfa.
Bydd modd i deuluoedd, rhieni maeth, athrawon a gofalwyr wneud cais am wyliau ar ran plentyn neu berson ifanc yn nhymor y gwanwyn 2026.
