Newyddion S4C

Covid-19: Cyhoeddi manylion cyntaf ymchwiliad yr Alban i'r pandemig

The Scotsman 24/08/2021
Nicola Sturgeon

Mae Llywodraeth yr Alban wedi cadarnhau y byddant yn cynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r modd y gwnaeth y wlad ddelio gyda phandemig Covid-19.

Mae disgwyl i ganfyddiadau'r adroddiad gael eu cyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

Fe fydd yr adroddiad yn canolbwyntio ar effeithiau iechyd uniongyrchol Covid-19, gan gynnwys marwolaethau ac achosion mewn cartrefi gofal, ac effeithiau anuniongyrchol, fel rhai cymdeithasol ac economaidd, yn ôl The Scotsman.

Fe fydd yr ymchwiliad hefyd yn ceisio ystyried a fyddai unrhyw ganlyniadau gwahanol wedi gallu bod yn ystod y pandemig, a sut fyddai'r canlyniadau hynny wedi gallu cael eu cyrraedd.

Mae Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, John Swinney, wedi dweud y bydd y llywodraeth yn "parhau i wrando ar y rhai sydd wedi eu heffeithio gan Covid-19."

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi lansio ymchwiliad annibynnol i'r modd gwnaethant ddelio gyda'r pandemig, gyda'r llywodraeth wedi dweud yn gynharach mai ymchwiliad ledled y DU oedd orau ar gyfer deall profiadau pobl yng Nghymru, yn ôl BBC Wales.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Llywodraeth yr Alban

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.