'Calon cymdeithasol': Cymuned yn gobeithio achub unig dafarn Penmachno

Yr Eagles

Mae ymgyrch ar droed i achub unig dafarn a “chalon gymdeithasol” pentref Penmachno yn Sir Conwy.

Ddydd Sadwrn fe fydd grŵp cymunedol Cynnal Bro Machno yn lansio cynnig cyfranddaliadau i brynu tafarn Yr Eagles, a'i rhedeg fel busnes sy'n eiddo i'r gymuned. 

Ac mae'r trigolion yn gobeithio y bydd hynny’n sicrhau dyfodol i’r dafarn sydd yn “hanfodol i beth yw Penmachno.” 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Ceri Wyn Morris, Ysgrifennydd Cynnal Bro Machno does yna “nunlle arall” fel Yr Eagles yn y pentref. 

“Mae o’n lle pwysig iawn i’r gymuned, mae’n social hub i’r bobl lleol ac i dwristiaid hefyd. 

“Mae’r perchennog wedi bod eisiau [gwerthu] ers dros flwyddyn rŵan a does 'na ddim diddordeb gen neb i brynu’r lle. 

“Felly mae’n amser i ni fel cymuned wneud rhywbeth i sicrhau dyfodol y pub. Os ydio’n cau fydd o real problem i ni, i’r cymuned. 

“Da ni ‘di gweld o yn cael ei ‘neud… mae lot o pubs lleol wedi cael y community buy out ‘ma so oddan ni’n meddwl os ydyn nhw’n gallu ‘neud o, 'dan ni’n gallu ‘neud o. 

Image
Canu
Mae pobl yn dod at ei gilydd i ganu yn rheolaidd yn Yr Eagles

'Cefnogi'r ffordd wledig o fyw'

Mae Bro Machno yn gartref i tua 1,200 o bobl, gyda thafarn Yr Eagles/Tŷ Uchaf’ yn “rhan ganolog” o fywyd lleol. 

Mae dosbarthiadau Cymraeg yn cael eu cynnal yno’n wythnosol ac mae hefyd yn llety i dwristiaid yn yr ardal. 

Dywedodd Ceri: “Mae o’n lle arbennig… Heb y pub sgynnon ni ddim nunlle i [bobl] ymarfer eu Cymraeg. 

“Nes i briodi blwyddyn yma a ddaru ni cael y briodas yn y pentre’ yn Penmachno. Oedd teulu ni i gyd wedi aros yn y ‘Bunkhouse’ so odd o’n lyfli i ni cael ein teulu a ffrindiau ni i gyd aros yn y pub yn yr un lle. 

Image
Ceri Wyn Jones

“Does 'na ddim lle arall yn Penmachno i gael gymaint o bobl i aros yn yr un lle. 

“Fydd o’n andros o golled i ni fel cymuned. Mae o’n lle dan ni’n dod at ein gilydd… does na ddim lle arall fedrwn ni dod at ein gilydd mewn lle cymdeithasol o gwbl yn y pentre’. 

“Gatho ni blas o hwnna dros Covid… heb y siawns i bobl ddod at ei gilydd mae o’n colled. 

Bydd Cynnal Bro Machno bellach yn lansio'r prosiect am 15.00 ddydd Sadwrn yn nhafarn Yr Eagles, wrth i oleuadau Nadolig y pentref gael eu tanio a Ffair Nadolig yr Eglwys gael ei chynnal. 

Fe fydd y camau swyddogol er mwyn i’r gymuned geisio prynu’r dafarn yn dechrau fis Ionawr. 

Image
Yr Eagles

“Byddem yn gofyn i unrhyw un sydd eisiau cefnogi Penmachno, y ffordd wledig o fyw a/neu berchnogaeth gymunedol i gyfrannu neu fuddsoddi - gallwn ni ei wneud gyda’n gilydd," medd Ceri. 

Mae'r prosiect wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin. 

Mae hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Fenter Iaith Conwy a Sefydliad Plunkett.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.