Cwmni amddiffyn i gyflogi rhagor o brentisiaid yng Nghymru

BAE Systems

Bydd un o gwmnïau mawr y diwydiant amddiffyn yn cyflogi mwy na 1,100 o brentisiaid y flwyddyn nesaf gyda chyfran ohonyn nhw yng Nghymru. 

Mae gan BAE Systems ganolfan yng Nglascoed, Sir Fynwy rhwng trefi Pont-y-pŵl a Brynbuga. 

Mae tua 500 o bobl eisoes yn gweithio yno, gyda nifer fawr ohonyn nhw yn rhan o gynllun prentisiaeth.    

Yn ôl BAE Systems, mae'r cyhoeddiad diweddaraf yn tanlinellu eu hymrwymiad i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o weithiwyr yn y sector. 

Bydd y cyfleoedd newydd wedi eu lleoli hefyd yn yr Alban, gogledd a de Lloegr, meddai'r cwmni.

Mae 6,800 0 bobol ifanc yn hyfforddi gyda'r cwmni ar hyd a lled y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.  

Ers 2020, mae BAE Systems wedi cynnig cyfleoedd i fwy na 10,000 o brentisiaid a graddedigion, gan fuddsoddi mwy na £1 biliwn ym maes addysg a sgiliau. 

Dywedodd prif weithredwr BAE Systems, Charles Woodburn: "Mae gennym y nifer uchaf erioed o brentisiaid a graddedigion yn gweithio ar rai o raglenni amddiffyn pwysicaf y byd, ac mae hynny'n tanlinellu'r talent anhygoel sydd ar gael, a'n hymrwymiad i ddatblygu'r sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer ein diogelwch yn y dyfodol."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.