Cynnal uwchgynhadledd i ddenu buddsoddwyr rhyngwladol i Gymru

ICC

Fe fydd uwchgynhadledd arbennig ar gyfer dros 300 o arweinwyr busnes a buddsoddwyr o 27 o wledydd ledled y byd yn cwrdd yng Nghasnewydd ddydd Llun i drafod cyfleoedd ar gyfer buddsoddi yng Nghymru.  

Ar hyn o bryd mae tua 1,480 o gwmnïau dan berchnogaeth dramor yn gweithredu yng Nghymru, gan gyflogi mwy na 174,000 o weithwyr.

Mae'r digwyddiad wedi cael ei ddisgrifio fel yr un mwyaf i'r ardal ers Cynhadledd Nato yno yn 2014, ac ymysg y siaradwyr fe fydd Tywysog Cymru'n cymryd rhan. 

Bydd y Tywysog yn cwrdd â nifer o fusnesau o Gymru yn ystod taith o amgylch arddangosfa'r Uwchgynhadledd. Fe fydd hefyd yn clywed gan gynrychiolwyr o'r sector technoleg werdd yng Nghymru, cyn ymuno â'r brif gynhadledd, pan fydd yn rhoi araith yno.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: "Heddiw rydyn ni'n dathlu Cymru ac yn annog hyd yn oed mwy o gwmnïau i fuddsoddi yma a chreu swyddi yma. Mae'n blatfform i arddangos ein holl gryfderau – Toreth o gymwysterau gwyrdd, talent ac arloesedd.  

"Rydyn ni wedi bod yn brysur yn creu'r amodau cywir i Gymru ffynnu o ganlyniad i fuddsoddiadau o dramor. Ac mae eisoes yn talu ar ei ganfed gyda chwmnïau o'r radd flaenaf fel Vantage yn dewis buddsoddi yma yng Nghymru. 

"Y cam nesaf yw adeiladu ar y buddsoddiadau mawr hyn i sicrhau swyddi a budd economaidd ym mhob rhan o Gymru."  

Buddsoddiad

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £4.6bn o fuddsoddiad i Gymru yr wythnos diwethaf. Roedd hyn yn cynnwys £2.5 biliwn ar gyfer datblygiad newydd Wylfa a buddsoddiad arall sy'n gyfanswm o £2.1 biliwn gan gwmnïau gan gynnwys Rolls Royce, Vishay, Stena Line, Boccard, a Bute Energy.

Dywedodd Syr Terence Matthews, Cadeirydd cyrchfan y Celtic Manor: "Rydym yn falch iawn o gael cynnal Uwchgynhadledd Buddsoddi Llywodraeth Cymru yn ICC Cymru a Chyrchfan y Celtic Manor. Edrychwn ymlaen at groesawu arweinwyr diwydiant o bob cwr o'r byd i Gymru.  

"Mae'r Uwchgynhadledd yn gyfle gwych i fusnesau Cymru ddenu buddsoddwyr a rhoi hwb i'r economi.  Digwyddiadau fel hyn yw'r rheswm pam y gwnaethom adeiladu ICC Cymru, gan fod digwyddiadau busnes mor bwysig i greu cysylltiadau a hwyluso masnach a buddsoddiad.  

"Mae'r amseru’n dda hefyd ar gyfer proffil a thwf mentrau technoleg cyfathrebu newydd yng Nghymru, gan ddefnyddio AI a dylunio a chreu dyfeisiau IoT gan ddefnyddio Lled-ddargludyddion Cyfansawdd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.