Cip ar gemau nos Wener yn y Cymru Premier
28/11/2025Mae tymor y Cymru Premier JD yn parhau wedi cyfnod o saib ar gyfer penwythnos trydedd rownd Cwpan Cymru JD.
Ac am benwythnos oedd hi hefyd wrth i deiliaid y cwpan, Y Seintiau Newydd gael eu gyrru allan o’r gystadleuaeth, yn ogystal â Chei Connah.
Mae’r canlyniadau yn golygu am y tro cyntaf ers 13 o flynyddoedd fydd y rownd derfynol eleni ddim yn cynnwys unai’r Seintiau Newydd neu Cei Connah.
Ond yn ôl at y gynghrair a gyda pum gêm i fynd tan yr hollt dim ond Y Seintiau Newydd sydd wedi selio eu lle yn yr hanner uchaf gyda’r pencampwyr naw pwynt yn glir ar frig y gynghrair.
31 pwynt yw’r swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf, ac mae Pen-y-bont wedi pasio’r targed hwnnw tra bod Caernarfon a Chei Connah yn dynn ar eu sodlau.
Yng nghanol y tabl, dim ond dau bwynt sy’n gwahanu Met Caerdydd (6ed), Y Barri (7fed) a’r Bala (8fed) yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf a bydd dau o’r clybiau rheiny yn cyfarfod brynhawn Sadwrn.
Ac yn y frwydr i osgoi’r cwymp mi fydd hi’n ornest hollbwysig rhwng Llansawel a’r Fflint gan mae dim ond pwynt sy’n gwahanu’r timau rheiny.
Nos Wener, 28 Tachwedd
Y Barri (7fed) v Hwlffordd (10fed) | Nos Wener – 19:45
Mae’r Barri ymlaen i bedwaredd rownd Cwpan Cymru ar ôl buddugoliaeth swmpus o 6-0 oddi cartref yn erbyn Llanelli nos Wener.
Mae tîm Steve Jenkins felly ar rediad o saith gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth ac wedi cadw pum llechen lân yn ystod y cyfnod hwnnw.
Er hynny, mae’r Barri’n dechrau’r penwythnos yn yr hanner isaf ar ôl ennill dim ond pedair o’u 16 gêm gynghrair y tymor hwn (25%).
Hanner ffordd trwy’r tymor ac mae Hwlffordd mewn dipyn o frwydr i osgoi’r cwymp eleni gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r Adar Gleision, Llansawel a’r Fflint rhwng y 9fed a’r 11eg safle.
Dyw Hwlffordd m’ond wedi ennill un o’u 15 gêm oddi cartref ym mhob cystadleuaeth yn 2025 (0-1 vs Llansawel), ond mae’r perfformiadau wedi gwella i dîm Tony Pennock yn ddiweddar.
Mae’r Barri eisoes wedi curo Hwlffordd ddwywaith ar Ddôl y Bont y tymor hwn, yn ennill o 3-2 mewn gêm gynghrair ym mis Medi cyn ennill o 2-0 ar ddechrau mis Tachwedd yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG, gyda’r blaenwr Ieuan Owen yn sgorio yn y ddwy gêm i’r Dreigiau.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌➖➖✅➖
Hwlffordd: ✅➖❌➖✅
Y Seintiau Newydd (1af) v Caernarfon (3ydd) | Nos Wener – 19:45 (Arlein)
Mae breuddwyd y trebl ar ben i’r Seintiau Newydd ar ôl colli o 2-1 yn erbyn Met Caerdydd yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru nos Wener diwethaf.
Eleni yw’r tro cyntaf ers 2007 i’r Seintiau syrthio allan o’r gystadleuaeth mor gynnar â hyn, ond mae’r dwbl dal ar y cardiau gan fod criw Craig Harrison naw pwynt yn glir ar frig y gynghrair ac wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG.
Yn wahanol i’r Seintiau fe lwyddodd Caernarfon i ennill eu gêm gwpan gyda’r Cofis yn trechu Penrhyncoch o 4-0 i gamu i’r bedwaredd rownd am y tro cyntaf ers pedair blynedd.
Dyw Caernarfon m’ond wedi colli un o’u wyth gêm ddiwethaf a daeth y golled honno yn erbyn Y Seintiau Newydd yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG (YSN 3-0 Cfon).
Mae’r Seintiau hefyd wedi curo’r Cofis yn y gynghrair yn gynharach y tymor yma, ac felly wedi ennill 16 o’u 17 gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅❌✅
Caernarfon: ͏➖✅✅➖➖