'Rhywle du ofnadwy': Malcolm Allen yn disgrifio ei heriau ar ôl ymddeol o bêl-droed

Malcolm Allen - SDYLL

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod hunanladdiad.

Mae’r sylwebydd a chyn chwaraewr pêl-droed Malcolm Allen yn dweud ei fod wedi "cyrraedd y gwaelod" ar ôl methu ag ymdopi ar ôl ymddeol o’r gamp.

Ar ôl gyrfa lewyrchus gan gynrychioli clybiau fel Watford, Norwich City a Newcastle United, fe wnaeth y gŵr o Ddeiniolen ymddeol yn 28 oed yn 1995 yn dilyn sawl anaf difrifol i’w ben-glin.

Fe lwyddodd i sgorio dair gwaith dros Gymru mewn 14 ymddangosiad yn ogystal.

Wrth siarad ar raglen Sgwrs Dan y Lloer ar S4C, fe ddywedodd ei fod wedi troi at alcohol i gymryd lle'r “adrenalin” o chwarae ar ôl rhoi’r gorau i’r gamp, a bod hynny wedi cael effaith ar ei deulu.

“I fod yn blwmp ag yn blaen, naddo [nes i ddim ymdopi]," meddai.

“O’n i’m yn gwbod sut i, odd na’m llawar o help yna. Neshi’m gofyn am help, 'di dynion ddim yn neud hynny, ag oni’n mynd i rywle du ofnadwy a nesh i’m sylweddoli tan o’n i’n y gwaelod lle o’n i 'di mynd.

“Oedd yr adrenaline ‘na o sgorio goliau a chwarae ar y lefel uchaf ddim yna dim mwy a ti’n trio cal rwbath i replacio fo os tisho, a’r unig beth o’n i’n medru, o’n i’n mynd allan mwy ag yfad mwy a neshi golli fy wraig, plant trwy ysgariad wrth wneud hynny.

“Na’i hollol cymyd y bai am hynny, oherwydd o’n i’m yn sylweddoli ar y pryd sut o’n i’n ymddwyn. Yr unig berson o’n i’n brifo mwy a mwy a mwy odd fi’n hun. Felly o’n i’n goro’ cyrraedd y gwaelod tan o’n i’n gorfod neud rwbath ar ei gownt o.”

Roedd yn byw ar ben ei hun yn Watford ar ôl rhoi’r gorau i’r gamp, ac mae’n dweud iddo geisio canfod cymorth ar ôl gweld hysbyseb yn y papur newydd lleol.

“Pan neshi gyrraedd y gwaelodion ‘na, oedd o ddim yn le neis,” ychwanegodd.

“Ti’n teimlo ar ben dy hun gymaint â ti’m isho deutha neb. Ond oedd rhaid fi, oedd rhaid fi godi ffôn a lwcus ofnadwy neshi neud oherwydd o’n i 'di meddwl neud petha’ stupid i fi’n hun, a neshi godi ffôn – rhif ffôn odd mewn papur lleol. A neshi ffonio’r dyn ‘ma, a nath o atab ffôn – John oedd enw fo.

“Ag ar y ffôn, pan neshi ddeutha fo be o’n i’n bwriadu neud, nath o ddeutha fi, ‘look Malcolm, you’re trying to kill the alcoholic in Malcolm. Not trying to kill Malcolm, you’re trying to kill the alcoholic – the person you don’t like in Malcolm.’

"Felly nath o ddysgu fi a deud, ‘put yourself in a happy place’ a lle hapus fi oedd pwshad hogan bach fi ar swing yn ‘rar’, gweld hi’n chwerthin a gwenu. 

"A nath o ddeud ‘did you see then how quickly you changed from a negative to a positive? Your brain is so powerful’ medda fo, ‘You can change things’.”

Image
Malcolm
Malcolm Allen yn cael ei holi gan Elin Fflur ar gyfres Sgwrs Dan y Lloer

Er iddo gael ei arestio a’i wahardd am yfed a gyrru yn ystod y cyfnod, mae’n dweud iddo ddysgu sut i reoli ei hun wrth i amser fynd yn ei flaen.

“Neshi’m yfad drop o alcohol tan oni’n 18 oed. Tan neshi chwarae yn tîm cynta’ Watford a chwarae i Gymru neshi’m twtchad drop," meddai.

"Ond o’n i’n chwilio am mwy a mwy a mwy, cos o’n i isho bod y gora’ yn chwarae pêl-droed, o’n i isho bod y gora’ yn yfad mwy na neb, oni ‘sho bod y gora’ yn neud bob dim. O’n i ‘sho bod yn allan yn hirach na pawb arall, dyna’r ffor’ oeddwn i.

“Mae 'na elfen bach dal i fod ond fedra’i rheoli fo rŵan – o’n i methu rheoli fo adag yna, cos oedd o’n rhedag efo fi."

Yn dad i dri ac yn daid bellach, mae’r cyn-ymosodwr erbyn hyn yn wyneb a llais cyfarwydd i gefnogwyr pêl-droed fel sylwebydd ac arbenigwr pêl droed.

Ac wrth adlewyrchu ar ei yrfa yn y gamp, fe ychwanegodd: “Faint o lwcus ydw i 'di bod yn fy mywyd i chwarae pêl-droed ar y lefel ucha’ a cael fy nhalu’n dda, a siarad am bêl-droed?

“Dwi’n hapus yn fy hun rŵan, a dwi’m yn meddwl bo’ fi erioed di bod mor hapus, a dwi’n 58.”

Gwyliwch Sgwrs Dan y Lloer: Malcolm Allen am 20.00 ar S4C nos Lun.

Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan gynnwys yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.