Elfyn Evans: Y ras am Bencampwriaeth Rali'r Byd yn mynd i'r diwrnod olaf
Bydd y ras am Bencampwriaeth Rali’r Byd yn mynd i ddiwrnod ola’r tymor gydag Elfyn Evans yn yr ail safle o drwch blewyn, fel y mae pethau'n sefyll ar ddiwedd trydydd diwrnod y rasio yn Saudi Arabia.
Wedi 14 cymal o'r rali, mae’r gŵr o Ddinas Mawddwy a’i gyd-yrrwr Scott Martin wedi ildio’u safle ar frig y bencampwriaeth ar hyn o bryd, i Sebastien Ogier o Ffrainc, a hynny o un pwynt yn unig.
Ond gyda thri chymal ar ôl ddydd Sadwrn, mae popeth yn parhau yn y fantol.
Wedi tridiau heriol i’r holl yrwyr ar ffyrdd tywodlyd ardal Jeddah, mae Evans yn yr wythfed safle, gyda Ogier, sydd yn rasio i dîm Toyota Gazoo gyda’r Cymro, yn chweched.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1994425229561467119?s=20
"Mae popeth yn yr awyr," meddai Evans ar ddiwedd cymal olaf ddydd Gwener.
"Mae popeth dal yn y fantol felly wrth gwrs, mi fyddwn ni yn rhoi popeth i mewn a gweld be allwn ni ei wneud."
Fe wnaeth Evans ddioddef pynctiar yn ystod cymal 11 ddydd Gwener, sydd yn ei adael dros ddau funud y tu ôl i’r gyrrwr yn y seithfed safle, ac yn ei gwneud hi'n annhebygol iddo ddringo’r safleoedd yn ystod tri chymal olaf y ras.
Pe bai Evans ag Ogier yn aros yn yr un safleoedd ar ddiwedd dydd Sadwrn, fe fyddai Evans yn methu cipio'r bencampwriaeth o un pwynt yn unig.
Ond mae rhagor o bwyntiau ar gael dydd Sadwrn, sydd yn golygu y bydd y gystadleuaeth yn parhau tan ddiwedd y cymal olaf un – y Cymal Cyffro.
Bydd y pum car cyflymaf yn hawlio pwyntiau'r cymal hwnnw, o bum pwynt i’r enillydd, lawr i un pwynt i'r pumed salfe.
Mae’r un nifer o bwyntiau yn cael eu rhoi i’r pum car cyflymaf dros dri chymal y diwrnod olaf yn ogystal, sydd yn golygu ei fod dal yn bosib i Elfyn i gipio’r Bencampwriaeth am y tro cyntaf yn ei yrfa, ar ôl bod ar y brig am ran helaeth o’r tymor.
Fe fydd y rali yn ail-ddechrau am 05.35 fore Sadwrn, a’r Cymal Cyffro yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C am 10.00.

