Starmer dan y lach wedi tro pedol ar hawliau gweithwyr
Mae’r Prif Weinidog, Keir Starmer, wedi’i feirniadu gan ASau ei blaid ei hun ar ôl troi pedol ar hawliau gweithwyr a oedd yn un o addewidion allweddol maniffesto ei blaid.
Roedd y Blaid Lafur wedi addo rhoi’r gallu i weithwyr hawlio eu bod wedi’u diswyddo’n annheg o’u diwrnod cyntaf mewn cyflogaeth, yn hytrach na’r 24 mis presennol.
Ond mae gweinidogion bellach wedi dileu’r cynnig mewn ymgais i gael y ddeddfwriaeth drwy Senedd San Steffan, ar ôl pryderon gan grwpiau busnes a gwrthwynebiad yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Mae gweinidogion bellach yn bwriadu cyflwyno’r gallu i weithwyr hawlio eu bod wedi’u diswyddo’n annheg ar ôl chwe mis yn lle.
Fe wnaeth maniffesto’r Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 2024 addo “cyflwyno hawliau sylfaenol o’r diwrnod cyntaf” i “amddiffyniad rhag diswyddo annheg”.
Dywedodd AS Llafur Dwyrain Middlesbrough a Thornaby, Andy McDonald, fod y cam yn “frad llwyr” ac addawodd ymgyrchu i’w wrthdroi.
Dywedodd AS Llafur Poole, Neil Duncan-Jordan, nad oedd “unrhyw drafodaeth wedi bod gyda’r Blaid Lafur am hyn”, gan honni bod y llywodraeth “wedi ildio” i bryderon Tŷ’r Arglwyddi.
Dywedodd AS Llafur arall, nad oedd am gael ei enwi, wrth PA fod y tro pedol yn dangos “gwendid” y Prif Weinidog.
“Maen nhw wedi cyflwyno Cyllideb gan ddweud ei fod ar gyfer pobl sy’n gweithio, ac yna maen nhw wedi dileu rhan allweddol o’u rhaglen waith,” meddai.
“Mae’n torri’r maniffesto.”
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, fod y cyhoeddiad yn “dro pedol gwarthus arall” i Lafur.
Mynnodd yr Ysgrifennydd Busnes, Peter Kyle, fod cyfaddawd wedi’i ganfod rhwng “undebau a’r cyflogwyr” ac “nad fy swydd i yw sefyll yn ffordd y cyfaddawd hwnnw”.
“Maen nhw wedi mynd trwy’r broses anodd o gydweithio i ddod o hyd i gyfaddawd… fy swydd i yw ei dderbyn,” meddai.
Llun: Jacob King / PA.