'Cam naturiol': Penodi Geraint Thomas yn Gyfarwyddwr Rasio Ineos Grenadiers

27/11/2025
Geraint Thomas

Mae'r seiclwr Geraint Thomas wedi cael ei benodi'n Gyfarwyddwr Rasio Ineos Grenadiers.

Daeth gyrfa'r Cymro i ben ar ddiwedd cymal olaf Taith Prydain yng Nghaerdydd fis Medi.

Yn ystod ei yrfa fe enillodd rhai o wobrau mwyaf y byd seiclo gan gynnwys y Tour de France a medalau Gemau Olympaidd.

Dywedodd Thomas fod dechrau'r rôl yn teimlo fel "cam naturiol nesaf" ei yrfa.

"Mae'r tîm yma wedi bod yn gartref i mi ers y cychwyn," meddai.

"Dwi wedi dysgu llawer gan seiclwyr eraill a'r staff o 'nghwmpas, a nawr dwi eisiau adeiladu ar ein llwyddiant yn y gorffennol.

"Dwi'n angerddol am helpu'r genhedlaeth nesaf, rhannu fy mhrofiad a gwthio'r tîm ymlaen i ennill cystadlaethau eto. Dwi'n gyffrous i siapio dyfodol yr Ineos Grenadiers."

Image
Geraint Thomas
Geraint Thomas yn rasio yn Nhaith Prydain yn 2009.

Roedd Geraint Thomas yn seiclo fel rhan o dîm yr Ineos Grenadiers ers 2010, ac roedd y tîm wedi rhoi’r cyfle iddo ddylunio ei grys ef a gweddill y tîm ar gyfer ei ras olaf.

Ar flaen y crys roedd y Ddraig Goch ac enwau pobl sydd wedi bod yn gefn i Geraint yn ystod ei yrfa.

Roedd 4,000 o bobl wedi ymgasglu yng Nghaerdydd i ffarwelio gyda Geraint Thomas wedi ei ras olaf.

Wrth gael ei gyfweld ar S4C ar ôl y ras ym mis Medi dywedodd bod yr emosiwn wedi dechrau cael y gorau ohono ar ei feic cyn gorffen y ras.

"Rydw i'n ei chael hi'n anodd hyd yn oed siarad ar hyn o bryd," meddai. "Ro'n i'n gwybod y byddwn i'n emosiynol, ond...

"Mae'n anhygoel. Dydw i heb gael rasio dros Gymru yn aml, ond bod tro ydw i wedi bod yn y wlad, mae wedi teimlo fel cynrychioli Cymru beth bynnag.

"Mae'r gefnogaeth yma wedi bod yn anhygoel." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.