Cyd-gynhyrchu ffilm Nadolig newydd yn y Gymraeg a’r Wyddeleg
Mae darlledwyr yng Nghymru ac Iwerddon wedi cydweithio ar y ffilm Nadoligaidd animeiddiedig gyntaf a fydd yn cael ei darlledu ar yr un diwrnod yn y Gymraeg a’r Wyddeleg.
Mae Nolig / Nollai yn gyd-gynhyrchiad rhwng S4C, TG4, a BBC Northern Ireland ac fe fydd yn cael ei darlledu ar y dair sianel ar 14 Rhagfyr.
Mae’r ffilm yn cofnodi antur y cawr-garw Nolig, ei ffrind gorau Siân, a Siriol, sef ystlum ddi-drefn sy'n hoff o'r Nadolig.
Dywedodd Sioned Geraint, Comisiynydd Addysg a Phlant S4C, ei bod “wrth ei bodd” bod y darlledwr wedi bod yn rhan o greu y ffilm yn Gymraeg.
“Bu'n wych gweithio gyda'n cyfeillion Celtaidd unwaith eto ac adeiladu ar y berthynas sy'n datblygu'n gyson rhwng TG4 ac S4C, ac mae gallu lansio'r ffilm mewn Gwyddeleg a Chymraeg ar yr un diwrnod ar y ddwy sianel yn berffaith," meddai.
Cafodd y ffilm ei chynhyrchu gan Taunt Studios a mae wedi ei chefnogi gan Gronfa Ddarlledu'r Iaith Wyddeleg (ILBF), Cronfa Sgrin a Coimisiún na Meán.
Dywedodd Máire Uí Choisdealbha, Cyfarwyddwr Comisiynu, TG4 mai dyma yw ffilm Nadolig animeiddiedig gyntaf TG4.
“Mae'r cydweithrediad hwn yn dwyn ynghyd gyfuniad eithriadol o dalent greadigol a dawn adrodd stori ddiwylliannol o Iwerddon a Chymru, gan arwain at ffilm Nadoligaidd a fydd, yn ein barn ni, yn cyfareddu teuluoedd am flynyddoedd lawer,” meddai.
“Mae'n garreg filltir i TG4 ac yn ddathliad o ddychymyg diwylliannol a rennir ac sy'n uno ein darlledwyr. Allwn ni ddim aros i gynulleidfaoedd brofi'r hud.”
Dywedodd Karen Kirby, Swyddog Comisiynu BBC Northern Ireland eu bod “wrth ein boddau” yn ymuno â'u partneriaid darlledu ar y ffilm.
“Mae Nollaí yn stori hyfryd am gariad a pherthyn, stori fyd-eang y gellir ei hadrodd mewn sawl iaith a sy'n dod yn fyw yn wych drwy dalentau actio anhygoel y cast, y tîm animeiddio a'r cerddorion,” meddai.
“Rwy'n gobeithio y bydd yn ffilm y gall pob cenhedlaeth ei mwynhau gyda'i gilydd dros gyfnod y Nadolig."