
Covid-19 wedi helpu menyw gydag anhwylder bwyta

Mae menyw a ddatblygodd anhwylder gorfwyta difrifol yn dilyn marwolaeth sydyn ei thad wedi dweud bod Covid-19 wedi ei harwain at wellhad.
Fe wnaeth Kirstie Logan, 31 oed, o Blasmarl, Abertawe roi saith stôn ymlaen tra’n galaru, gan wario dros £1,000 ar fwydydd o McDonalds mewn blwyddyn.
Dywedodd Ms Logan ei bod wedi "cam-drin" ei chorff er mwyn ymdopi â'r trawma.
“Tra o’n i’n galaru, o’n i methu gwneud penderfyniadau rhesymegol a roeddwn yn cam-drin fy nghorff oherwydd nad oeddwn yn gwybod sut i brosesu beth oedd wedi digwydd".
Bu farw tad Ms Logan yn 2015 gan arwain iddi brofi hunllefau, a “methu rheoli” hyd yn oed y pethau lleiaf yn ei bywyd; gan gynnwys ei deiet.
“Byddwn weithiau’n archebu Deliveroo dair gwaith y dydd, gan archebu digon o fwyd i bedwar o bobl", ychwanegodd Ms Logan.

Roedd Ms Logan yn esgus bod y bwyd roedd hi’n ei brynu i rywun arall gan fod ei anhwylder yn gwneud iddi deimlo cywilydd ac embaras.
Yn ôl yr elusen anhwylder bwyta BEAT, mae pobl ag anhwylder gorfwyta yn bwyta llawer iawn o fwyd dros gyfnod byr, ac nad ydynt yn cael pleser o’r bwyd.
Roedd Ms Logan yn pwyso dros 17 stôn ond ar ôl dal Covid-19 ym mis Mawrth 2020, penderfynodd gymryd rheolaeth o'i hiechyd.
“Dywedodd meddygon wrthaf fy mod ar drothwy datblygu diabetes - hwnna oedd y gic yr oeddwn ei hangen i gael fy hun allan o’r twll iselder yr oeddwn i wedi bod ynddo.
“Fe adawodd fi’n ddiolchgar am fywyd a sylweddolais nad oedd cymaint o bobl mor ffodus, felly colles y pwyse".
Ar ôl colli saith stôn, mae Ms Logan wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Ms Prydain, ac yn ceisio defnyddio ei llwyfan i gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch anhwylder gorfwyta.
Dechreuodd ar ei thaith o golli pwysau trwy gerdded i fyny ac i lawr bryniau Abertawe bob dydd, ar ôl chwe mis o gerdded, roedd hi wedi colli tair stôn.
"Os ydw i'n ennill (Ms Prydain), byddaf yn treulio’r flwyddyn yn ymroi fy hun i helpu'r rhai sy’n dioddef, nid yn unig pobl sydd ag anhwylder gorfwyta, ond mathau eraill o anhwylderau bwyta difrifol hefyd".
Ms Logan yw'r unig gystadleuydd o Gymru yn rownd derfynol Ms Prydain. Mae'r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar Fedi 17.